Fe gollodd trethdalwyr £1biliwn pan gafodd y P
(Llun PA)
ost Brenhinol ei werthu, a hynny oherwydd nad oedd y Llywodraeth wedi amcangyfrif faint o alw fyddai yna am gyfrannau.
Dyna farn pwyllgor o Aelodau Seneddol, sydd hefyd wedi cyhuddo gweinidogion o gael cyngor sâl a bod â gormod o ofn methu.
Dywedodd Pwyllgor Dethol Busnes y Senedd fod trethdalwyr yn colli allan ar “werth sylweddol” oherwydd hynny.
Mae’r adroddiad beirniadol hefyd yn codi pryderon na lwyddodd y Llywodraeth i gael gwerth eu harian ar gyfer safleoedd yn Llundain oedd yn eiddo i’r cwmni.
Yn ôl y pwyllgor doedd y cwmnïau a gynorthwyodd ac a roddodd gyngor i’r Llywodraeth werthu’r post, gan gynnwys Lazard, UBS a Goldman Sachs, ddim wedi rhoi digon o bwyslaid ar gael gwerth eu harian i drethdalwyr.
“Dyw hi ddim yn glir o gwbl fod gwerthiant y Llywodraeth o’r Post Brenhinol wedi bod o fudd digonol ac addas i drethdalwyr,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Adrian Bailey.
“Y ffeithiau plaen yw mai pris cychwynnol y cyfranddaliadau oedd 330c y siâr, mae’r pris wedi codi mor uchel â 618c y siâr, a nawr mae o gwmpas 473c.
“All y Llywodraeth ddim wfftio pryderon y pwyllgor fod pris isel cychwynnol yr ased cyhoeddus gwerthfawr yma wedi costio £1biliwn i drethdalwyr.”
Codi £2biliwn
Roedd llawer o fuddsoddwyr wedi “prynu’n rhad a gwerthu’n gyflym”, yn ôl yr Aelodau Seneddol, ac fe ofynnon nhw i’r Llywodraeth gyhoeddi’r wybodaeth am pa fuddsoddwyr werthodd eu siariau ac am ba bris.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd o Adran Fusnes y Llywodraeth fod yn rhaid gwerthu’r Post Brenhinol er mwyn gwarchod y gwasanaeth.
“Mae’r adroddiad yn cydnabod yn gywir fod yr Adran wedi llwyddo yn ei hamcanion gwerthu,” meddai’r llefarydd.
“Roedd yn hanfodol er mwyn gwarchod y gwasanaeth post cyffredinol – yr un pris i bostio llythyr unrhyw le, chwech diwrnod yr wythnos – a gwarchod rhag gorfod rhoi rhagor o arian trethdalwyr i’r Post Brenhinol.
“Fe gododd y gwerthiant bron i £2biliwn i drethdalwyr, cynigiwyd cyfranddaliadau am ddim i 150,000 o weithwyr y Post Brenhinol, ac fe grëwyd cwmni FTSE 100 sy’n gallu cael gafael ar gyfalaf preifat er mwyn sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy a sicrhau bod aelodau o’r cyhoedd yn medru prynu cyfrannau yn y cwmni.”