Fe fydd un o arweinwyr fforwm ieuenctid a phlant Cymru yn pledio gyda Llywodraeth Cymru i achub y corff.
Mae Joel Nathan Price o Draig Ffynci yn cwrdd â’r Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi, Jeff Cuthbert, i ofyn i’r Llywodraeth newyd eu meddwl ynglŷn â dileu eu grant i’r Fforwm.
Fe fydd yn dadlau mai dyma’r unig gorff democrataidd cenedlaethol sy’n rhoi cyfle i blant a phobol ifanc fynegi eu barn wrth y Llywodraeth a’r Cynulliad ac y gallai hynny fod yn groes i gonfensiynau rhyngwladol.
Os na fydd grant y Llywodraeth yn cael ei adfer, fe fydd y corff yn dod i ben yn yr hydref – gan olygu, meddai’r cefnogwyr, mai Cymru fyddai’r unig wlad yn Ewrop heb fforwm o’r fath.
‘Colli ffydd’
“Mae oblygiadau’r penderfyniad yma ar bobol ifanc yn anferth,” meddai Joel Price mewn llythyr at y Gweinidog. “Fe fyddan nhw’n colli cyfeillgarwch, colli llais, colli’r cyfle i gynrychioli eu hetholathau, yn colli’r ffydd oedd ganddyn nhw yn Llywodraeth Cymru.
“Mae’r penderfyniad i roi pen ar gefnogaeth ariannol i’r Ddraig Ffynci yn anfon negeseuon chwithig i blant a phobol ifanc Cymru – nad yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i glywed eu lleisiau ddim yn flaenoriaeth bellach.
“Fod pobol ifanc Cymru, y genhedlaeth nesaf o bleidleiswyr, yn cael eu hanghofio, yn cael eu gadael ar ôl ac allan o’r drafodaeth o ran y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.”
Y cefndir
Mae’r fforwm wedi bod yn cynrychioli plant a phobol ifanc ers 2002, gyda chefnogaeth arian y Llywodraeth ac maen nhw’n dweud eu bod yn unigryw oherwydd mai plant a phobol ifanc sy’n arwain y corff.
Fe gollodd y Ddraig Ffynci ei grant yn y rownd diwetha’ o geisiadau – yn ôl y Llywodraeth fe fydd yr arian yn mynd at waith tebyg trwy gorff ymbarel, Plant yng Nghymru ond mae’r fforwm yn dweud nad ydyn nhw eisiau gweithio trwy sefydliad arall sydd yn nwylo oedolion.