Llanbed - bydd yr arian yn mynd at drefi o'r fath
Fe fydd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, yn cyhoeddi heddiw fod £5 miliwn yn ychwanegol yn cael ei roi i wella canol trefi Cymru.

Bwriad y cyllid ychwanegol yw gostwng nifer y siopau ac adeiladau “gwag, segur a diffaith” yng nghanol trefi a bydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng awdurdodau lleol Ceredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Fynwy – £1.25 miliwn yr un.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu cynlluniau adfywio gwerth £107 miliwn o’r enw Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Threchu Tlodi, ond fe fydd yr arian newydd yn mynd i ardaloedd sydd heb gael budd o’r cynlluniau hynny.

Blaenoriaeth

Ar ffurf benthyciadau y bydd yr arian yn cael ei roi a’r bwriad yw dod o hyd i ddefnydd newydd i siopau ac adeiladau masnachol sy’n wag.

“Gyda’r cyllid hwn, gall pob rhan o Gymru wedi buddsoddi a gwelliant,” meddai Carl Sargeant. “Mae eiddo gwag a segur yn bla yn ein trefi a’n cymunedau.”

“Bydd yn helpu i newid defnydd safleoedd gwag ac yn annog eu defnyddio at ddibenion mwy cynaliadwy, fel tai, hamdden neu wasanaethau pwysig.”