Iwan Rheon
Y gyfres deledu ffantasi Game of Thrones, sy’n cynnwys perfformiadau amlwg gan yr actor Cymraeg Iwan Rheon, yw’r ddrama sydd wedi derbyn y mwyaf o enwebiadau yng ngwobrau teledu Americanaidd yr Emmys eleni.
Mae’r Cymro Cymraeg Iwan Rheon o Gaerdydd wedi bod yn rhan o gyfres fyd-enwog HBO ers 2012, yn chwarae rhan y seicopath, Ramsay Snow. Cyn hynny roedd yr actor 29 oed yn un o brif gymeriadau Misfits ac fe fu’n chwarae rhan Macsen White yn Pobol y Cwm.
Wrth siarad â Golwg, dywedodd ei fod yn cael “lot o hwyl” wrth ffilmio golygfeydd o’r gyfres – sy’n adrodd hanes brenhinoedd ac uchelwyr byd ffantasi Westeros yn brwydro am oruchafiaeth, ym mhobman o Albania i Awstralia.
Ond mae’n cyfaddef iddo rybuddio ei deulu rhag gwylio rhai o’r golygfeydd mwyaf treisgar:
“Wnes i ddweud wrth Mam am beidio gwylio fe, a dw i’n meddwl bod hynny’n syniad da,” meddai.
Llwyddiant
Yn America mae tua 13.6 miliwn o bobol yn gwylio’r gyfres, sydd wedi ei gwneud y gyfres fwyaf poblogaidd yn hanes HBO.
Mae’r gyfres wedi derbyn 19 enwebiad Emmy, gan gynnwys y gyfres ddrama orau. Mae enwebiadau eraill ar gyfer y categori yn cynnwys rhaglenni Fargo, Breaking Bad a The Normal Heart.
Bydd y seremoni wobrwy yn cael ei gynnal yng Nghaliffornia ar 25 Awst.