Dylan Thomas
Fe fydd geiriau’r bardd Dylan Thomas yn ymddangos ar drenau tanddaearol Llundain fel rhan o brosiect i ddathlu canmlwyddiant geni’r bardd o Abertawe.

Bydd y prosiect ‘Poems on the Underground’ yn dechrau ar Orffennaf 14, yn dilyn ei lansiad yn ddiweddar yng nghartref y bardd John Keats yn Llundain.

Roedd blas Cymreig i’r lansiad hefyd, wrth i Dannie Abse ac Owen Sheers fynychu, ynghyd â mab yng nghyfraith Dylan Thomas, Trevor Ellis.

Roedd yr arlwy gerddorol yn cynnwys ‘Suo Gân’, wedi’i pherfformio gan yr Apollo Chamber Players, preliwdiau’n seiliedig ar emyn-donau Cymreig gan Vaughan Williams a chyfansoddiadau ar gyfer pedwarawd llinynnol gan William Mathias.

Bydd cerddi Dylan Thomas yn ymddangos ar y trenau tanddaearol ochr yn ochr â gweithiau eraill gan Dannie Abse, Owen Sheers, Gwyneth Lewis a Gillian Clarke.

‘Cnoi cil’

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: “Dw i’n falch iawn ein bod wedi cydweithio â Transport for London a Poems on the Underground i hoelio sylw ar waith Dylan Thomas a beirdd arall o Gymru yn ystod y flwyddyn bwysig hon.

“Gobeithio y bydd y geiriau yn rhywbeth y gall teithwyr ar Drenau Tanddaearol Llundain gnoi cil arno yn ystod yr haf ac y byddan nhw hefyd yn rhoi cipolwg  ar lenyddiaeth, treftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru.”

‘Dathlu cerddi beirdd o Gymru’

Dywedodd cyfarwyddwr Poems on the Underground, Judith Chernaik: “Pleser o’r mwyaf yw cael anrhydeddu gwaith Dylan Thomas, bardd sy’n golygu cymaint i bob un ohonon ni, ac mae’n braf hefyd cael dathlu cerddi beirdd o Gymru sy’n ychwanegu at ei waddol, ac yn ei ddyfnhau.

“Gwn y bydd pobl Llundain yn croesawu’r amrywiaeth eang o farddoniaeth a fydd i’w gweld ar y trenau tanddaearol yn ystod yr haf.”