Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi datgelu mai Facebook yw’r wefan sy’n cael ei defnyddio fwyaf gan Weinidogion Llafur Llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr ymchwil, mae’r Gweinidogion yn treulio mwy o amser ar wefannau TripAdvisor ac Amazon nag ydyn nhw ar wefan y Llywodraeth ei hun.

Ymhlith y gwefannau poblogaidd eraill mae Ebay, Rightmove, Next, Argos a LinkedIn.

Mae Carwyn Jones wedi anfon llythyr at yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Antoinette Sandbach gyda’r manylion a gafodd eu casglu rhwng Ebrill 4 a Gorffennaf 3 eleni.

Ym mis Ebrill 2014, trydarodd y Prif Weinidog ei bod yn “beryglus o hawdd” mynd yn gaeth i wefannau cymdeithasol.

‘Mewnwelediad anhygoel’

Dywedodd yr Aelod Cynulliad tros Ogledd Cymru, Antoinette Sandbach: “Mae’r datguddiadau hyn yn rhoi mewnwelediad anhygoel i fywyd yn Llywodraeth Lafur Cymru sydd yn frith, mae’n debyg, o bobol yn sgwrsio ar Facebook.

“Mae Gweinidogion Llafur a’u staff yn treulio mwy o amser yn siopa ar Amazon ac yn chwilio trwy adolygiadau am wyliau ar TripAdvisor nag ydyn nhw ar wefan Llywodraeth Cymru ei hun.

“Tra dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pob ffurf posib ar y cyfryngau, gan gynnwys Facebook, Twitter ac YouTube, i gyfathrebu â’r cyhoedd yng Nghymru, mae’r data hwn yn awgrymu bod y gwefannau hyn yn cael eu defnyddio hefyd at ddibenion hamdden.

“Mae Prif Weinidog Llafur wedi cyfaddef ei fod e’n gaeth i Twitter ac mae’n ymddangos bellach fod nifer o’i gydweithwyr yn gaeth hefyd.

“Tra bod gan bawb yr hawl i gael egwyl am ginio, mae yna gwestiynau ynghylch pam fod Ebay, Argos, Next a Rightmove mor flaenllaw ar y rhestr o wefannau sy’n cael eu chwilio’n fwyaf cyson gan staff Llywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd fod trethdalwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru “fwrw ymlaen gyda’u gwaith”.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb y Llywodraeth.