Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi amheuaeth a oes unrhyw fwriad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i weithredu cynllun iaith y cytunwyd arno ddechrau mis Ebrill.

Dri mis ers cytuno ar y cynllun newydd, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn honni nad oes gan y Cyngor unrhyw beirianwaith ar gyfer ei weithredu.

Maen nhw bellach wedi ysgrifennu at y Cyngor yn gofyn am esboniad – ac am gadarnhad eu bod yn bwriadu rhoi’r strategaeth newydd ar waith.

Esboniodd cadeirydd lleol Cymdeithas yr Iaith, Sioned Elin: “Mae’n debyg i bwyllgor newydd, ‘Panel Ymgynghorol y Gymraeg’, gynnal ei gyfarfod cyntaf yr wythnos ddiwethaf, ond ni wnaed unrhyw gynnydd o ran cynllun i weithredu’r starategaeth iaith, ac ni bydd yn cyfarfod eto tan ddiwedd Medi neu ddechrau Hydref.

“Erbyn hynny, bydd pum mis llawn o ddiffyg gweithredu gan y Cyngor ers mabwysiadu’r strategaeth iaith newydd. Dyw’r Cyngor ddim yn dangos unrhyw arwydd o frys wrth wynebu’r argyfwng a amlygwyd yn ffigurau’r Cyfrifiad, ac mae peryg iddo golli cyfle hanesyddol i hybu’r iaith yn dilyn cytundeb traws-bleidiol.”

Mae’r Gymdeithas yn cyhuddo’r Cyngor hefyd o anwybyddu anghenion y Gymraeg wrth hysbysebu ar gyfer swydd allweddol.

“Yn waeth fyth, mae’n ymddangos fod y Cyngor wedi torri’n syth un o argymhellion allweddol yr adroddiad iaith a fabwysiadwyd ganddo trwy hysbysebu tu fewn a thu allan i Gymru swydd Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Tai ac Iechyd heb unrhyw ofyniad i fedru gweithio’n Gymraeg,” meddai Sioned Elin.

Yn sgil yr ansicrwydd, mae cyfarfod wedi’i drefnu o holl aelodau’r Gymdeithas yn y sir i benderfynu a ddylid troi’r parti oedd i fod ar faes y Steddfod yn Llanelli i ddathlu strategaeth iaith newydd yn brotest yn uned y Cyngor.