Senedd yr Alban
Mae’r arolwg barn diweddaraf yn yr Alban yn awgrymu pleidlais ‘Na’ o 59% i 41% yn y refferendwm ar annibyniaeth.

Mae hefyd yn dangos fod bron i chwarter y boblogaeth yn dal heb benderfynu a bod mwyafrif wedi diflasu ar y ffordd mae’r ddwy ochr yn y ddadl yn gwrth-ddweud ei gilydd.

Cafodd dros 1,000 o bobl eu holi rhwng 10 a 23 Mehefin ar gyfer yr arolwg gan TNS a gafodd ei gomisiynu gan Syr Tom Hunter ar gyfer ei sefydliad amhleidiol Scotland September 18.

Mae’n dangos 32% yn cefnogi annibyniaeth, 46% yn erbyn a 22% o rai nad ydyn nhw’n gwybod.

Gwrth-ddweud

Roedd 63% yn cytuno â’r gosodiad ‘Dw i wedi rhoi’r gorau i wrando ar y ddadl gan fod y ddwy ochr yn gwrth-ddweud ei gilydd’ a 73% yn dweud bod honiadau’r ddwy ochr yn ei gwneud hi’n anodd gwybod pwy ddylid ei gredu.

Nod y sefydliad Scotland September 18 yw hybu dadlau agored a gwybodaeth ar y pwnc, a dywedodd Syr Tom Hunter fod anwybodaeth pobl yn ei siomi.

“Mae hon yn sefyllfa druenus sydd wedi ei hachosi gan ddwy ochr y ddadl, ac mae’n codi cywilydd ar ein democratiaeth,” meddai.

“Mae’n gwbl iawn fod dyfodol ein cenedl yn nwylo’n poblogaeth, ond mae’r boblogaeth honno’n cael ei hamgylchynu gan niwl trwchus o ddryswch ac ansicrwydd.”