Dafydd Elis-Thomas (llun gan Blaid Cymru)
Mae cyn-lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, yn cyhuddo ymgyrchwyr iaith o fod yn rhy barod i ddarogan gwae am ddyfodol y Gymraeg.

Mae hefyd yn honni bod rhai o garedigion yr iaith yn defnyddio’r Gymraeg fel rhyw fath o ffydd grefyddol i lenwi gwacter ysbrydol yn eu bywydau.

Fe wnaeth AC Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ei sylwadau ar raglen The Politics Show ar BBC1 heddiw.

“Mae’r darogan gwae wedi bod yma erioed,” meddai. “Hyd yn oed yn y canol oesoedd pan oedd 95% o bobl Cymru’n uniaith Gymraeg roedd yna feddylfryd na allai iaith fach oroesi ochr yn ochr â iaith lawer cryfach.

“Heddiw yn yr unfed ganrif ar hugain mae agwedd o’r fath yn amlwg yn lol llwyr.”

‘Diystyr’

Dywedodd hefyd fod ffigurau’r Cyfrifiad yn ddiystyr wrth drafod sefyllfa’r Gymraeg.

“Dydyn nhw ddim yn disgrifio beth sy’n digwydd i’r iaith – y cwbl maen nhw’n ei wneud ydi dangos symudiadau poblogaeth,” meddai.

“Dydi’r ffaith fod llai o bobl yn siarad Cymraeg mewn cymuned ddim yn golygu eu bod nhw wedi stopio siarad Cymraeg – dim ond nad ydyn nhw’n byw yn y gymuned honno bellach.”

Mae’n galw ar ymgyrchwyr i gynnig atebion yn lle protestio yn erbyn Llywodraeth Cymru.

“Os oes rhywun yn credu nad oes digon yn cael ei wneud i hyrwyddo dewis o ieithoedd, y ffordd o newid pethau ydi cynnig atebion i’w cyflwyno nhw i’r llywodraeth,” meddai.

“Y peth allweddol i’w wneud ydi perswadio pobl i gefnogi rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.”