Gwyl flynyddol Pamplona (o wefan wikepedia)
Mae miloedd o bobl yn llenwi dinas Pamplona, neu Iruña, yng ngogledd Sbaen ar gychwyn gŵyl flynyddol San Fermin y prynhawn yma.

Uchafbwynt yr ŵyl naw diwrnod, a gafodd ei hanfarwoli yn nofel Ernest Hemingway yn 1926, ‘The Sun Also Rises’, yw dianc oddi wrth haid o deirw ar hyd strydoedd culion y ddinas ym mynyddoedd y Pyrenees.

Dywed llywodraeth daleithiol Navarra fod 3,500 o blismyn yno’n ceisio cadw’r digwyddiadau mor ddiogel ag sy’n bosibl.

Mae’r ŵyl wedi cael ei beirniadu fodd bynnag gan fudiadau hawliau anifeiliaid, sy’n dweud bod 48 o deirw’n cael eu lladd ynddi bob blwyddyn.