GlaxoSmithKlein
Mae gŵr busnes sydd â chysylltiadau â Llanrwst mewn carchar yn China yn wynebu cyhuddiadau difrifol o lwgrwobrwo.

Roedd Mark Reilly, 52 oed, yn dal swydd uchel gyda’r cwmni fferyllol GlaxoSmithKline (GSK) pan gafodd ei arestio ym mis Mai a’i gyhuddo o redeg ‘rhwydwaith anferth o lwgrwobrwyo’.

Yn fab i deulu a symudodd i ddyffryn Conwy yn yr 1960au, cafodd Mark Reilly y rhan fwyaf o’i addysg yn Llanrwst, lle mae ei fam yn dal i fyw.

Roedd wedi gweithio i GSK ers 1989, ac yn rheolwr cyffredinol adran fferyllol GSK yn China ers 2009. Byddai’n rhannu ei amser rhwng ei gartref gwerth £1.2 miliwn yn swydd Hertford a’r dwyrain pell.

Cyrch

Roedd heddlu China wedi gwneud cyrch ar swyddfeydd GSK yr haf diwethaf ar sail honiadau fod staff yn llwgrwobrwyo meddygon i brynu cynnyrch y cwmni.

Ychydig wythnosau’n ddiweddarch, cafodd Mark Reilly ei wahardd rhag gadael China, ac mae wedi bod i mewn ac allan o’r ddalfa ers hynny. Ddeufis yn ôl, cafodd ei gyhuddo’n ffurfiol o arwain rhwydwaith llwgrwobrwyo a oedd yn gyfrifol am roi cyfanswm o £320 miliwn mewn taliadau anghyfreithlon i feddygon dros gyfnod o flynyddoedd.

Fe ddaeth i’r amlwg hefyd fod gan awdurdodau China ffilm o Mark Riley yn cael cyfathrach rywiol gyda merch ifanc Chineaidd ac iddyn nhw ddefnyddio hyn i blacmelio GSK.

Mae adroddiad ar wefan newyddion y Mail Online yn dyfynnu cyfaill iddo sy’n cydnabod ei fod wedi gwneud rhai camgymeriadau yn ei fywyd personol ac mewn busnes, ond sy’n gwbl sicr nad yw’n ymylu ar fod y math o droseddwr y mae awdurdodau China yn ei honni.

Yn ôl arbenigwyr ar system gyfreithiol China, gall rhagolygon Mark Riley fod yn ddu iawn. Bydd yn wynebu treial cudd, ac mewn achos mor ddifrifol â hwn gallai’r gosb olygu garchar am 20 mlynedd neu am oes. Mae teulu Mark Riley wedi cael eu cynghori i beidio â dweud dim am yr achos.