Mae’n gwestiwn sydd wedi codi’i ben yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn debygol o fod yn un o’r pynciau llosg erbyn etholiad Cynulliad 2016 pan mae’n dod at gyllido addysg uwch.

Yr wythnos hon cafodd dau o flogiau golwg360 am y pwnc tipyn o ymateb, gyda Guto Davies yn gyntaf yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru gadw’i pholisi presennol, ac Osian Elias yn anghytuno wrth ddweud y dylid cyllido myfyrwyr sydd yn aros yng Nghymru yn unig.

Ar hyn o bryd mae’r ffioedd dysgu ar gyfer prifysgolion ym Mhrydain  hyd at £9,000 y flwyddyn, penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Prydain.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n cynnig grant i bob myfyriwr o Gymru sydd yn golygu mai dim ond £3,685 sydd yn rhaid iddyn nhw dalu’n flynyddol – y llywodraeth sydd yn talu gweddill y ffi.

Mae rhai’n dadlau fod hyn yn rhoi cyfle teg i fyfyrwyr Cymru, gan olygu y gallen nhw astudio unrhyw le yn y Deyrnas Unedig heb orfod poeni am ffioedd dysgu uchel.

Mae hyn, medden nhw, yn golygu nad yw myfyrwyr Cymru’n cael eu cyfyngu o ran y cyrsiau maen nhw am eu hastudio, ac yn golygu gwell siawns iddyn nhw gael lle ar gyrsiau da.

Ond yn ôl eraill, mae’n golygu fod Llywodraeth Cymru’n gwario miliynau ar grantiau sydd, yn y bôn, yn mynd i brifysgolion y tu allan i Gymru er mwyn talu am gyrsiau.

Byddai peidio rhoi’r grant yma i fyfyrwyr sydd yn croesi Clawdd Offa i astudio yn arbed llawer o arian a allai gael ei ddefnyddio i wella prifysgolion yma yng Nghymru.

Gallai rhai eithriadau hefyd gael eu gwneud, er enghraifft fod myfyrwyr yn parhau i dderbyn grant os ydyn nhw’n astudio pwnc sydd ddim ar gael yng Nghymru, neu’n cael lle ar gwrs uchel ei barch yn rhywle fel Rhydychen a Chaergrawnt.

Beth yw eich safbwynt chi? Ydych chi’n credu fod y system bresennol o gynnig yr un gefnogaeth ariannol i bawb yn decach? Neu a ddylai myfyrwyr peidio disgwyl yr un gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru os ydyn nhw’n mynd rhywle arall i astudio? Oes lle ar gyfer eithriadau i fyfyrwyr sydd yn cael lle yn un o brifysgolion gorau Prydain, neu sydd am astudio cwrs sydd ddim ar gael yng Nghymru?