Bu farw merch 19 oed o Lanfairfechan ger Bangor yn yr ysbyty ddoe, 11 diwrnod ar ôl iddi gael ei hanafu mewn ffrwydrad awyr agored.

Cafwyd cadarnhad fod Lisa Jones wedi marw yn Ysbyty Wythenshawe, Manceinion yn dilyn y digwyddiad ar Stryd Duke yn Chorley, Sir Gaerhirfryn ar 21 Mehefin.

Yn ôl yr heddlu, fe ddigwyddodd y ffrwydrad mewn lle tân awyr agored ar ôl i rywun geisio cynnau tân.

Cafodd dyn 19 oed o ardal Chorley ei holi a’i ryddhau ac mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.

Mae ei theulu wedi dweud wrth y Daily Post eu bod wedi eu “tristau yn ofnadwy” o golli eu “merch a’u chwaer brydferth”, a’u bod ddim am wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

Mae’r achos wedi cael ei gyfeirio at y crwner.