No Devotion
Mae cyn aelodau o’r band Lostprophets wedi rhyddhau sengl newydd ar ôl cychwyn band newydd gyda chanwr arall.

Enw’r band newydd yw No Devotion gyda Geoff Rickly, oedd yn arfer canu gyda’r band Thursday, yn ymuno a nhw.

Cafodd canwr y Lostprophets, Ian Watkins, ei garcharu am 35 mlynedd y llynedd am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae No Devotion wedi rhyddhau dwy gân,’Stay’ a ‘Eyeshadow’, sydd ar gael i’w lawrlwytho o itunes.

Bydd y band yn teithio’n ddiweddarach y mis hwn gyda gigs yng Nghaerdydd,  Manceinion, Llundain a Glasgow.

Sengl gyntaf y band, ‘Stay’: