I unrhyw un sydd yn teimlo nad oes yna ddigon o gerddoriaeth gwerin, pop a gwlad ysgafn a hwyliog yn y Gymraeg, mae gennych chi reswm i lawenhau.
Ar ôl cyfnod i ffwrdd o gerddoriaeth Gymraeg – “wedi ymddeol i Benidorm”, meddai’r canwr – mae’r Welsh Whisperer yn ôl gydag albwm newydd o ganeuon, Plannu Hedyn Cariad.
Mae’r Welsh Whisperer yn ganwr pop, gwlad a gwerin Cymraeg sy’n talu teyrnged i oreuon ein cenedl (yn ei farn ef, beth bynnag!) megis Dafydd Iwan, Tony ac Aloma, a John ac Alun.
Ond mae tipyn o hiwmor y tu ôl i’r cymeriad hefyd – Andrew Walton yw enw iawn y canwr – wrth iddo ganu am ferched cefn gwlad, cig, cwrw, bara brith a beudai glan mewn ffordd ddigon tafod mewn boch.
“Dwi bellach nôl yng Ngwlad y bacwn a’r wy ac yn chwifio’r faner unwaith eto!” meddai’r Welsh Whisperer wrth golwg360.
“Teimlaf fod ‘Plannu Hedyn Cariad’ yn gyfle i mi dangos fy nheimladau tuag at y pethau sy’n poeni rhywun o gefn gwlad Cymru.
“Pethau fel pwy sy’n mynd i bobi’r bara brith os ydy Greggs yn cymryd dros y becws? Neu beth os ydy pob tafarn yn gwerthu cwrw Fosters yn lle Felinfoel?”
Dyma ragflas o’r albwm:
Angen mwy o bopeth!
Mae’r caneuon yn sicr yn ymdrin â’r themâu cefn gwlad mewn ffordd ysgafn iawn, ond nid yn unig mwy o gerddoriaeth o’r math yma sydd ei angen yng Nghymru, yn ôl y canwr.
“Dwi ddim yn meddwl bod angen mwy o unrhyw beth penodol o ran cerddoriaeth Gymraeg, ond mwy o BOPETH!” ebychodd Welsh Whisperer.
“Wrth gwrs mae ’na fandiau ac artistiaid o bob math yn cynhyrchu cerddoriaeth wych ac ofnadwy, ac mae hwnna’n beth da!
“Yn bersonol dwi wrth fy modd yn ymlacio gyda Piña Colada (llaeth Sir Gâr) ac yn gwrando ar gasets Beti a Siân er enghraifft, ac mi fydd na nifer eraill eisiau ymlacio gyda Smirnoff Ice a Bryn Fôn – gwych!
“Ond hoffwn weld llawer mwy o ddewis, ar ffurf caneuon, rhaglenni teledu, gwefannau, gorsafoedd radio, cylchgronau, papurau newydd a mwy.”
Mae Walton wedi bod yn brysur ar brosiectau eraill hefyd, gan gynhyrchu sioeau radio ar gyfer Radio Beca a Môn FM, a recordio cân fel rhan o’r ymgyrch i sefydlu Newsnight Cymru.
“Yr unig ffordd i dyfu yw drwy gynhyrchu mwy o bethe da trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai. “Nid bod fy albwm i yn ‘dda’ o reidrwydd – ond mae Cangen Gronw Merched y Wawr wrth eu boddau yn barod!”
Am fwy o wybodaeth am sut i brynu’r albwm gallwch fynd i wefan www.tarwdu.com, neu dudalennau Facebook, Twitter a SoundCloud Welsh Whisperer.