Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn dod i ben.
Cafodd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2000 ond fe fydd yn dod i ben ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod parhau i ariannu’r asiantaeth, sy’n cefnogi ac yn hybu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Y sefydliad oedd yn gyfrifol am ddenu gŵyl Womex i Gaerdydd.
Daeth cytundeb cyllid tair blynedd rhwng y Llywodraeth i ariannu SCG i ben ddoe.
Dywedodd cadeirydd y SCG, Alan James: “Er gwaethaf ein hymdrechion dros y naw mis diwethaf i gynnal trafodaethau i geisio sicrhau’r arian, fe wnaeth bwrdd y SCG benderfynu na fyddai cynnig y Llywodraeth i ymestyn y cytundeb am chwe mis nes ein bod yn gallu dod o hyd i ffynhonnell arall i ariannu’r SCG, yn ymarferol.
“Mae’r bwrdd felly wedi penderfynu peidio derbyn y cynnig ac i barhau i atal gweithrediadau’r cwmni. O ganlyniad fe fydd y tri aelod o staff yn colli eu swyddi.”