Paul Flynn
Fe fu gweithwyr o Swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) yng Nghasnewydd yn cynnal streic ddoe, yn erbyn cynlluniau i breifateiddio’r gwasanaeth a haneru nifer y staff ym Mhrydain – wrth greu 200 o swyddi yn India.
Mae’r newidiadau yn digwydd wedi i’r MOJ “wastraffu” £56 miliwn ar gynllun cyfrifiadurol cyn ei sgrapio ar ôl darganfod bod adran arall yn gweithio ar gynllun tebyg.
Roedd tua 400 o aelodau o undeb PCS yng Nghasnewydd a Bootle, Glannau Merswy yn streicio ddoe – ar ôl i 93% benderfynu o blaid gweithredu yn ddiwydiannol.
Roedd cwmni Steria o Ffrainc yn un o dri chwmni oedd yn gweithio ar y cynllun cyfrifiadurol cyn iddo gael ei sgrapio. A Steria – fel rhan o gwmni Shared Services Connected Ltd (SSCL) – fydd yn rheoli swyddfeydd yr MOJ ar ôl ei breifateiddio.
Mae aelodau o undeb y PCS yng Nghasnewydd yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o “gosbi swyddfa Casnewydd a gwobrwyo methiannau Steria” – cwmni sydd wedi cyhoeddi bwriad i dorri cannoedd o swyddi a chau tair swyddfa ym Mhrydain erbyn mis Hydref 2014.
‘Rhwygo economi’
Dywedodd AS Paul Flynn oedd yn rhan o’r brotest yng Nghasnewydd ddoe: “Mae’r Llywodraeth yn gwobrwyo methiannau Steria ac yn cosbi llwyddiant ardderchog Gwasanaethau Rhanedig Casnewydd, sydd wedi arbed £32 miliwn i’r wlad yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl ei sefydlu yn 2006.”
“Pam cosbi llwyddiant? Pam rhwygo economi Casnewydd er mwyn creu swyddi mewn gwledydd eraill?
“Roedd Steria yn rhan o grŵp oedd yn gyfrifol am golli £56 miliwn. Ond mae’r Llywodraeth wedi sgrapio’r cynllun ac wedi rhoi contract newydd i Steria, gyda gwahoddiad i allforio swyddi lleol i India.”
“Mae’r Llywodraeth yn torri swyddi heb boeni dim am yr effaith ar weithwyr. Dydyn nhw heb ddysgu o gwbl o fethiannau Atos, G4S a Capita.”
Dyblygu
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Fe wnaethom ni roi’r gorau i’r cynllun ar ôl darganfod yn 2012 bod Swyddfa’r Cabinet yn ystyried creu cynllun tebyg. Doeddem ni ddim yn gallu adennill rhai o’r costau fel staffio.
“Y bwriad ar y pryd oedd creu system bwrpasol ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ond ar ôl clywed fod Swyddfa’r Cabinet yn gweithio ar yr un peth, fe wnaethom ni feddwl pam dyblygu’r gwaith maen nhw’n ei wneud?”