Fe fydd deddfwriaeth newydd i wella gwasanaethau i ddioddefwyr trais yn y cartref yn cael ei chyflwyno gan  Lywodraeth Cymru heddiw.

Fe fydd fersiwn ddrafft y Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn cael ei chyflwyno gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths.

Gan nad yw cyfraith droseddol wedi ei ddatganoli ni fydd yn cyflwyno cosbau llymach i rai sy’n cyflawni troseddau trais domestig ond mae’r Llywodraeth yn dadlau y bydd yn cyfrannu at gyfreithiau presennol ac yn cryfhau mesurau i geisio atal trais yn y cartref.

Daw’r mesur wrth i’r Llywodraeth lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am drais yn y cartref gan annog pobl i “wneud safiad yn erbyn pob mathau o drais o’r fath ac achosion o gam-drin.”

Mae’r ymgyrch yn galw ar bobl i ddangos eu gwrthwynebiad i drais domestig drwy gyhoeddi lluniau o’u hunain ar Facebook  a Twitter yn cysylltu breichiau.

Daw’r ymgyrch ar ôl i ffigurau yn gynharach eleni ddangos bod achosion o drais domestig wedi mwy na dyblu mewn rhai rhannau o Gymru dros y tair blynedd diwethaf – gydag achosion ar draws Cymru yn cynyddu bron i 5% yn y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth i’r mesur gael ei lunio mae ymgyrchwyr wedi dadlau ei fod yn canolbwyntio ar fenywod ac yn anwybyddu trais domestig yn erbyn dynion a phlant.

Dywedodd Lesley Griffiths: “Fe allai cyd-weithwyr, ffrindiau, cymdogion a hyd yn oed aelodau o’r teulu fod yn bryderus ynglŷn â gweithredu os ydyn nhw’n amau bod rhywun yn cael eu cam-drin am eu bod yn ofni eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad, neu’n ymyrryd neu hyd yn oed yn gwneud sefyllfa’r dioddefwr yn waeth.

“Gyda’r ymgyrch yma, ein bwriad yw’r rhoi gwybodaeth i bobl ynglyn a sut i weithredu yn y ffordd iawn os ydyn nhw’n amau bod rhywun yn cael eu cam-drin.

“Rydyn ni am i bobl gyhoeddi’n agored eu bod yn unedig yn erbyn y mathau yma o gam-drin.”