Yr heddweision Cath Jones, Christian Mackey, Nigel Bird a David Francis yn pwyso ar hen far clwb nos yr Apollo
Mae heddlu yn Y Rhondda wedi darganfod canabis werth tua £1miliwn yn tyfu mewn hen glwb nos.

Daeth heddweision o hyd i dros 1,000 o blanhigion canabis yn tyfu ar dri llawr hen glwb yr Apollo.

Dywedodd Chris Peters, Sarjant yn Y Rhondda: “Mae’r darganfyddiad hwn yn un enfawr ac amserol. Hwn yw un o’r gweithrediadau mwyaf soffistigedig rwyf wedi dod ar draws, gyda’r gallu i gynhyrchu gwerth miliynau o gyffuriau dros gyfnod o 12 mis.

“Mae’r adeilad wedi bod yn segur am dri mis sy’n ddigon o amser iddynt dyfu’r cyffur sydd wedi’i ddarganfod.”

Soffistigedig

Yr oedd y fenter yn broses soffistigedig gyda llawr gwaelod y clwb yn cael ei ddefnyddio yn feithrinfa ar gyfer planhigion newydd, a’r ail lawr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer planhigion yng nghanol eu twf.

Ar y trydydd llawr roedd planhigion aeddfed yn barod i’w cynaeafu.

“Heddiw, rydym wedi ennill brwydr ond mae’r rhyfel yn erbyn cyffuriau yn parhau,” ychwanegodd Sarjant Peters.

Mae dau ddyn wedi’u harestio ar amheuaeth o dyfu canabis, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.