Manon Steffan Ros
Ddydd Llun fe fydd y nofelydd Manon Steffan Ros yn mynd heb fwyd am 24 awr er mwyn cefnogi’r hawl i wrthod codi tai newydd os ydyn nhw am arwain at niweidio’r iaith Gymraeg.
“Does dim hawl yng Nghymru i wrthod caniatâd cynllunio ar sail iaith yn unig,” meddai awdur Blasu ac Fel Aderyn.
“Y neges ydi nad ydi’r iaith yn ddigon pwysig i’w hystyried pan fydd cwmni mawr eisiau codi 300 o dai ar gyrion eich pentre’. Dw i’n anghytuno efo hynny.”
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod “wedi ymrwymo i system sy’n seiliedig ar gynllun a dylai awdurdodau cynllunio lleol wneud yn siŵr eu bod yn ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol”.
Ond yn ôl Manon Steffan Ros mae angen i’r Llywodraeth roi mwy o statws i’r Gymraeg ym maes Cynllunio, ac mae’n galw ar ei chyd-Gymry i bwyso am hynny.
“Yn ddiweddar, cyflwynodd Carwyn Jones ddatganiad polisi drafft dan y teitl Bwrw Ymlaen, oedd yn trio mynd i’r afael â diogelu’r Gymraeg. Ro’n i’n cytuno efo llawer o’r hyn ddywedodd o, ond yn siomedig nad oedd y Gymraeg i gael ei hystyried yn y system gynllunio.
Gan mai drafft ydi hwn, mae gen i a chithau hawl i ddatgan eich barn, beth bynnag ydi o. Dw i’n bwriadu gwneud hyn dros e-bost.”
Yn ogystal â’r awdures, mae golwg360 yn deall y bydd dros ugain person arall hefyd yn ymprydio ar yr un pryd i gefnogi’r achos, gan gynnwys Osian Jones, Dilwyn Roberts-Young a Heledd Gwyndaf.
Darn barn Manon Steffan Ros yn llawn yn rhifyn yr wythnos o Golwg. Hefyd mae ganddi golofn llên-meicro yn y cylchgrawn sy’n trafod Cwpan y Byd.
Ymateb y Llywodraeth
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru “Cadarnhaodd y Prif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg yn ei ddatganiad polisi ar 17 Mehefin.
“Mae’r Nodyn Cyngor Technegol, TAN 20, yn ei gwneud yn glir mai’r lle mwyaf priodol o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyried effeithiau datblygiadau ar y Gymraeg yw trwy’r Cynllun Datblygu Lleol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system sy’n seiliedig ar gynllun a dylai awdurdodau cynllunio lleol wneud yn siŵr eu bod yn ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. I’w helpu, cyhoeddwyd canllaw ymarfer ar 17 Mehefin i gyd-fynd â datganiad y Prif Weinidog.”