Fideo hyrwyddo Miwsig Moss Morgan
Mae ffilm fer yn hyrwyddo nofel Gymraeg newydd wedi ei chynhyrchu gan Wasg y Bwthyn, cwmni cyhoeddi ac argraffwyr o Gaernarfon.
Dyma’r tro cyntaf i gwmni cyhoeddi yng Nghymru gynhyrchu ffilm i hyrwyddo llyfr Cymraeg.
Nofel newydd yr awdures o Lanilar, Siân Lewis, yw testun y ffilm. Daeth Miwsig Moss Morgan yn agos iawn at gipio Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Meddai un o’r beirniad, Bethan M Hughes, am y nofel, “Nofel hudolus, gyfareddol a chyfoethog… dyma awdur crefftus a phrofiadol sy’n creu cymeriadau dwfn, amrywiol a chofiadwy.”
Miwsig Moss Morgan yw nofel gyntaf Siân ar gyfer oedolion. Mae’n awdur plant profiadol sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ddwywaith.
Gallwch wylio’r fideo yma:
Y ffilm
Fe gafodd y ffilm ei ffilmio ym Mhorthaethwy, ym Mhwllfanogl ger cyn gartref y diweddar artist Kyffin Williams ac mewn lleoliad unigryw uwchben Penmaenmawr. Y dyn camera a’r cyfarwyddwr yw Rhys Edwards o’r Felinheli sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer sawl gwobr Bafta Cymru ac sydd wedi ennill gwobr genedlaethol bwysig am ei waith ffilm.
Meddai Marred Glynn Jones, Golygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn, “Mae wedi bod yn brofiad diddorol iawn gweld Rhys wrth ei waith, ac mae’r lleoliadau wedi bod yn rhai penigamp.
“Mae’r ffilm yn creu awyrgylch ac mae Rhys wedi llwyddo i ddal ysbryd y nofel a Moss Morgan, cymeriad enigmatig sy’n cael dylanwad ar nifer o bobl yn y llyfr.
“Yn hytrach na chynnal lansiad llyfr y tro hwn, fe wnaethon ni benderfynu cynhyrchu’r ffilm hon a fydd yn cael ei dosbarthu trwy gyfrwng YouTube, Facebook, Twitter a Vimeo.”
Yn ogystal â chynhyrchu ffilm, mae Gwasg y Bwthyn hefyd yn cynnal cystadleuaeth hunlun (selfie) er mwyn rhoi sylw i Miwsig Moss Morgan.
Y cwbwl sydd rhaid ei wneud yw tynnu llun ohonoch chi eich hun yn edrych allan ar y môr yn eich hoff leoliad (Mae Moss Morgan yn mwynhau eistedd o flaen yr ogof mae’n byw ynddi gan edrych allan ar y môr), a’i anfon i dudalen Facebook Gwasg y Bwthyn, at Twitter @Gwasgybwthyn gyda’r hashnod #miwsigmossmorgan, neu trwy gyfrwng e-bost at y wasg (marred.bwthyn@btconnect.com). Bydd yr enillydd yn ennill copi o’r nofel, a’r clod a’r bri o fod yn enillydd cystadleuaeth hunlun cyntaf y wasg.
Miwsig Moss Morgan yw Nofel y Mis y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Gorffennaf.