Arthur Jones
Mae pryderon am ddyn 73 oed o Gymru sydd wedi diflannu ar ynys Creta.
Bu Arthur Jones o Sir Ddinbych ar ei wyliau ar yr ynys ar ei ben ei hun ond dydy e ddim wedi cael ei weld ers Mehefin 19.
Roedd wedi bod yn aros yn fflatiau Pardalakis yn ardal Chania’r ynys ers Mehefin 17.
Roedd i fod i ddychwelyd adref ddydd Mawrth ond mae ei fab wedi cysylltu ag Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane i fynegi ei bryder.
Mae lle i gredu y gallai fod wedi diflannu tra’n cerdded yn y bryniau ar yr ynys.
Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod yn rhoi cymorth i’w deulu.