Abu Qatada
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud y byddai Llywodraeth Prydain yn brwydro yn erbyn unrhyw ymgais gan y clerigwr eithafol Abu Qatada i ddychwelyd i wledydd Prydain yn y dyfodol.

Cafodd ei estraddodi i Wlad yr Iorddonen fis Gorffennaf y llynedd i wynebu cyhuddiadau o weithgarwch terfysgol yn ymwneud ag al-Qaida.

Cost y broses o’i estraddodi oedd ychydig yn llai na £2 miliwn.

Cafwyd e’n ddieuog gan lys heddiw o gynllwynio i gyflawni troseddau terfysgol, yn ôl adroddiadau’r wasg yn ei famwlad.

Mae Clegg yn mynnu bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud y penderfyniad cywir i’w estraddodi, gan ddweud “dydyn ni ddim am gael y dyn yma’n ôl”.

Dywedodd wrth orsaf radio LBC: “Yr hyn sy’n glir i mi yw bod angen i’r dyn hwn fynd o flaen ei well ac roedd angen iddo wneud hynny y tu allan i’r Deyrnas Unedig a dyna’r hyn gyflawnodd y llywodraeth hon yn y pen draw.”

Wrth geisio atal yr awdurdodau rhag ei estraddodi, ceisiodd Qatada fanteisio ar gyfreithiau hawliau dynol Ewropeaidd ond cafodd ei anfon i’r Iorddonen yn dilyn sicrwydd gan lywodraeth y wlad na fydden nhw’n ei arteithio wrth ei holi.

Mae’n wynebu rhagor o gyhuddiadau mewn llys yn yr Iorddonen yn ymwneud â chynllwyn i gyflawni troseddau terfysgol yno.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Mewnfudo James Brokenshire mai “dyfalbarhad y llywodraeth hon” oedd yn gyfrifol am y cais llwyddiannus i’w anfon o’r DU.

“Cytunodd llysoedd y DU fod Qatada yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol y DU, felly rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu ei symud oddi yma.

“Mae gorchymyn estraddodi yn ei erbyn sy’n golygu na fydd e’n gallu dychwelyd i’r DU.”