Prifysgol Glyndwr
Mae Prifysgol Glyndŵr yn “gofidio’n arw” yn dilyn honiadau bod rhai o’i myfyrwyr tramor wedi twyllo mewn profion iaith Saesneg.

Collodd y brifysgol yr hawl i noddi myfyrwyr tramor yn dilyn ymchwiliad i gwmni Education Testing Services (ETS) o America, wnaeth ddarganfod dros 29,000 o ganlyniadau annilys a 19,000 o ganlyniadau amheus drwy Brydain.

Roedd 350 o fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr – sydd â phedwar campws yn Wrecsam, Llanelwy, Llaneurgain a Llundain a chanolfan ym Mrychdyn – ymhlith y canlyniadau annilys neu amheus.

Ymhlith yr honiadau roedd y ffaith fod arolygwyr wedi darllen neu rhoi atebion i ddosbarth cyfan.

‘Siomedig’

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol: “Mae’r Brifysgol yn gofidio’n arw bod ei thrwydded noddi wedi cael ei hatal gan Wasanaeth Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) ac rydym yn gweithio gyda nhw i ymchwilio i’r materion a godwyd.

“Mae gennym bartneriaethau â nifer o gyflenwyr ac rydym yn hynod o siomedig i fod yn destun unrhyw dwyll neu weithgaredd a fyddai’n peryglu’r drwydded honno.

“Mae cael ein rhoi yn y sefyllfa hon gan bartneriaid allanol yn peri rhwystredigaeth gan fod Prifysgol Glyndŵr yn cymryd ei chyfrifoldebau fel Noddwr o Ymddiriedaeth Uchel iawn o ddifrif ac mae wedi ymrwymo i ddarparu addysg i’r myfyrwyr rhyngwladol dilys hynny sy’n cydymffurfio’n llawn â’u gofynion mewnfudo.

“Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio’n agos gydag UKVI mewn ymgais i wella ei weithrediadau ar gampws yr Elephant and Castle [yn Llundain] a bydd yn parhau i wneud hynny.

“Rydym wedi sefydlu tîm archwilio newydd a fydd yn ymateb i’r pwyntiau a godwyd fel y gellir datrys y mater hwn ac adfer trwydded y Brifysgol.”