Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio mam a’i thri phlentyn yng Nghaerlŷr.

Cafwyd Tristan Richards, 22, a Kemo Porter, 19, yn euog o lofruddio Shehnila Taufiq, 47, ei merch Zainab, 19, a’i meibion Bilal, 17, a Jamal, 15.

Cafodd y pedwar eu lladd ar gam wrth i Richards a Porter geisio talu’r pwyth yn ôl gan fod eu ffrind wedi cael ei drywanu oriau’n gynt.

Ond roedden nhw wedi targedu’r tŷ anghywir.

Dywedodd y barnwr fod yr ymosodiad “wedi’i gynllunio ymlaen llaw”.

Ychwanegodd fod cyfaint y petrol ym meddiant y ddau yn profi eu bod nhw wedi bwriadu cynnau tân ar ôl eu llofruddio.

Bydd yn rhaid i Richards dreulio 35 o flynyddoedd dan glo, a chafodd Porter ddedfryd o 25 o flynyddoedd yn y carchar.