John Owen Jones Llun: Casia William
Mae sengl newydd John Owen-Jones, Anthem Fawr y Nos, wedi’i rhyddhau ar ffurf sengl ddigidol heddiw.

Mae’r canwr o Borth Tywyn yn rhyddhau’r sengl yn dilyn ei ymddangosiad ar raglen Cariad@Iaith yr wythnos diwethaf.

Fe recordiwyd y gân yn stiwdio Sain ychydig ddyddiau cyn iddo ymddangos ar y rhaglen sy’n cael ei ffilmio yn Nant Gwrtheyrn.

Mae’r sengl yn fersiwn Gymraeg o’r gân ‘Music of the Night’ o’r sioe gerdd enwog ‘Phantom of the Opera’.

Mae’r gân yn un cyfarwydd i’r canwr gan iddo berfformio rhan y ‘Phantom’ nifer o weithiau.

Mae’r sengl hefyd yn cynnwys Adre’ Ôl, fersiwn Gymraeg o’r gân ‘Bring Him Home’ o’r sioe Les Miserables.

Mae’r ddwy gân ar gael ar ffurf sengl ddigidol i’w lawrlwytho o iTunes ac Amazon.

Yr oedd John yn rhan o’r rhaglen Cariad@Iaith yr wythnos diwethaf gyda nifer o enwogion eraill, megis Behnaz Akhgar a Neville Southall.

Yr actores o Gaerdydd, Suzanne Packer oedd enillydd y gyfres.