Mae gohebydd Golwg360, Rhys Evans, wedi bod yn sgwrsio â rhai o’r bobol lwcus fu yn gig lansio casgliad newydd Datblygu, Erbyn Hyn.
Ddechrau’r mis cafodd grŵp lwcus o bobol y cyfle i weld lansio CD newydd Datblygu yn Siop Recordiau Tangled Parrot yng Nghaerfyrddin.
Mae grŵp dylanwadol yr ‘80au a’r ‘90au wedi cyhoeddi cryno albwm – eu casgliad newydd cynta’ ers y ganrif ddiwetha’ – ar wahân i record pedwar trac, ‘Darluniau Ogof o’r Unfed Ganrif ar Hugain’ nôl ym 2012.
Roedd y newyddion am yr albwm o ganeuon newydd ar label Ankstmusik yn gyffrous iawn i ffans Datblygu, gan gynnwys canwr grŵp roc Y Ffug, Iolo Selyf Jones.
Wrth siarad gyda Golwg360 am y digwyddiad, mae Iolo wedi disgrifio y teimlad cyffrous oedd yn amlwg ymhlith y gynulleidfa ar y noson.
“Roedd yn ddigwyddiad cyffrous iawn. Roedd y Parrot yn llawn ac roedd gallu siarad gyda Pat a Dave yn grêt oherwydd bod nhw’n bobol mor hyfryd” meddai Iolo.
“Roedd yna awyrgylch cyffrous i’r digwyddiad gyda phobol yn aros i glywed Dave yn areithio’i farddoniaeth a’i eiriau.”
“Roedd pawb oedd yn bresennol wir yn ffans o Datblygu a gyda’r un feddylfryd ac roedd hynny’n hyfryd i weld.”
Braint
Yr hyn sy’n ddiddorol am y grŵp arbrofol o’r1980au yw eu poblogrwydd ymhlith y genhedlaeth newydd.
Un arall o’r genhedlaeth ifanc o gerddorion oedd yno oedd Sam Rhys, aelod o’r grŵp pync Castro, a bu’n sôn wrth Golwg360 am y fraint o gael bod yn y digwyddiad yn y Tangled Parrot.
“Roedd yn anrhydedd bod yn un o’r bobol gyntaf i wrando ar yr albwm, roedd y profiad yn un anhygoel o hudolus.”
“Roedd awyrgylch anhygoel ymhlith siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg oedd yn gwerthfawrogi gwaith Datblygu cymaint.”
Dawn dweud Dave
Fe benderfynodd Pat a Dave deithio i lawr i Gaerdydd ar gyfer sesiwn recordio undydd yn stiwdios John Griffiths a Kevs Ford o’r grŵp Llwybr Llaethog a’r canlyniad yw ‘Erbyn Hyn’.
Mae’r casgliad yn llawn caneuon unigryw sydd i’w gweld yn fwy perthnasol heddiw na gwaith gorffennol y grŵp.
Mae’n amlwg o’r dechrau nad yw Dave wedi colli’i ffordd gyda geiriau ac mae ei lais yn gryf ac yn amlwg trwy gydol y CD.
Mae’r themâu sydd yn cael eu crybwyll yn gyfarwydd i ddilynwyr Datblygu. Mae’r CD yn cyffwrdd ar gariad, rhyddid personol, chwant, ac addysg, ymhlith themâu eraill.
Tu ôl i’r geiriau, mae’r gerddoriaeth yn rhydd ac yn nodweddiadol o waith blaenorol y grŵp.
Er efallai nad yw’r casgliad yn mynd i fod at ddant pawb, mae yna’n sicr ddilynwyr Datblygu, hen a newydd, sydd yn gwerthfawrogi’r gwaith.
Roeddwn i ychydig yn amheus pan glywais i fod Datblygu’n recordio eto gan fod hi’n anodd iawn i fandiau ddod nôl ar ôl peidio chwarae neu recordio [am gyfnod hir]” meddai Iolo.
“Serch hynny, cefais ddim fy siomi gan Dave a Pat. Mae’r CD newydd yn anhygoel ac yn swnio fel bod Dave heb golli’r angerdd oedd ganddo yn yr ‘80au.”
Dyfodol Datblygu
Yn union fel yr oedd gwaith cynnar Datblygu yn ddylanwadol i genhedlaeth yr ‘80au, mae’r CD newydd i’w gweld yr un mor bwysig i’r genhedlaeth newydd.
Felly, fydd yna gyfle i’r genhedlaeth newydd fwynhau perfformiadau byw gan Datblygu yn y dyfodol?
Er nad oes dim cyhoeddiad bod y grŵp am berfformio’n fyw, mae’r galw i weld Dave a Pat yn perfformio’r caneuon yn fyw yn amlwg.
“Dw i’n sicr y bydd mwy o gigs Datblygu yn y dyfodol; hyd yn oed heddiw, mae’r galw yn dal yna, mae yna rywun yn ei ystafell wely yn gwrando ar Datblygu am y tro cyntaf ac yn colli ei feddwl i mewn ym myd Dave a Pat,” meddai Sam.
Mae yna ddisgwyl i Dave ymuno gyda Llwybr Llaethog i berfformio’r trac, Maes E, yn y Tangled Parrot ar yr wythfed o Awst.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gig,” meddai Iolo, sydd yn perfformio ar y noson gyda’r Ffug. “Bydd hi’n wych i weld Dave yn perfformio.”
Lluniau: o sesiwn Dave Datblygu gyda Huw Stephens yng Ngwyl Llenyddiaeth Dinefwr.