Mae Ywain Gwynedd, cyn-ganwr y grŵp roc poblogaidd Frizbee, yn rhyddhau ei albwm newydd heddiw.

Codi/\Cysgu yw albwm cyntaf Yws fel artist unigol, a’r cynnyrch cyntaf iddo ryddhau ers albwm olaf Frizbee, Creaduriaid Nosol nôl yn 2008.

Wedi’u hysgrifennu dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg, mae’r albwm 10 trac yn ddechreuad newydd i’r cerddor ar ôl i’w hen fand chwalu.

Yn ôl Ywain, mae yna elfennau tebyg rhwng Frizbee a’i brosiect newydd.

“Er nad ydi’r stwff yn bell iawn o stwff Frizbee, mae’r broses o’u creu nhw efo Rich Roberts  (y cynhyrchydd sydd hefyd yn chwarae dryms i’r band) wedi golygu fod yna elfennau yn perthyn iddyn nhw fuaswn i erioed wedi gwneud efo Frizbee” meddai Ywain.

“Mae ‘Sebona Fi’ yn enghraifft o hynny efo synths a chwpl o draciau gyda phedwarawd llinynnol yn cynnwys cân fy ngwraig – fysa’r hogia Frizbee heb adael fi gael get away efo cân mor soppy.”

Dim pwysau

Gyda Rich Roberts, yn gynt o Gola Ola ar y dryms, Ems, yn gynt o Vanta ar y bas, ac Ifan o’r grŵp Sŵnami ar gitâr, mae yna ddisgwyliadau uchel o berfformiadau byw’r grŵp.

Wedi dweud hynny, dyw Ywain ddim yn teimlo’r pwysau o gael ei gysylltu gyda Frizbee,

“Dwi ddim yn teimlo’r pwysau a dweud y gwir gan fod y bwlch wedi bod mor hir.”

“Mae llawer o drefnwyr y gigs wedi helpu i leihau ar hynny drwy roi’r band yn tua 3ydd ar y bil yn y gigs fydda ni’n neud dros yr haf.”

Cadw Dyl Mei yn hapus

Beth felly all pobl ddisgwyl o berfformiadau byw’r band?

“Bydd y band yn chwarae 8 o’r caneuon oddi ar y CD a’r sŵn yn eithaf agos at yr hynny a glywir ar ddisg.”

Yn ogystal â’r traciau hynny, mae’n debyg na fydd fans Frizbee yn cael eu siomi,

“Oherwydd bod Dyl Mei wedi dweud byswn i’n t**t os na fyswn i’n chwarae caneuon mwyaf poblogaidd Frizbee, rydan ni wedi ail-weithio cwpl o draciau i blesio unrhyw un sy’n disgwyl hynny – a Dyl.”

Yn dilyn yr haf, does dim cynlluniau pendant wedi’u trefnu ond mae Ywain yn chwarae efo’r syniad o ryddhau hen gân cyn diwedd y flwyddyn.

“Mae angen gweld sut mae’r haf yn mynd yn gyntaf cyn penderfynu beth i wneud nesaf.”

“Ond wnes i recordio can Nadolig diwedd blwyddyn diwethaf a chafodd ei chwarae dipyn ar Radio Cymru, felly bydd angen rhyddhau honna ar y we dwi’n meddwl.”

Mae Codi/\Cysgu, albwm cyntaf Yws Gwynedd a’r Band a’r gael i’w brynu heddiw.

Gigs haf Yws Gwynedd a’r Band

Mehefin

20 – CellB, Blaenau Ffestiniog

28 – Gŵyl Cann, Llanerfylish

Gorffennaf

2 – Neuadd Talwrn (Acwstig)

4 – 4a6, Caernarfon

11 – Wakestock, Gwynedd (Acwstig)

12 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

18 – Sesiwn Fawr, Dolgellau

Awst

2 – Gŵyl Blysh, Caerdydd

8 – Maes Eisteddfod, Llanelli

9 – Maes B, Llanelli

16 – Gŵyl Bethel, Bethel

24 – Copperfest, Amlwch