Alison Hind
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r pedwar aelod o’r un teulu fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A44 ger Aberystwyth yr wythnos diwethaf.

Bu farw John Kehoe, 72, ei wraig Margaret, 65, partner eu merch Martin Pugh, 47, a’i nith ef Alison Hind, 28, mewn damwain rhwng car, fan a thancer ar 17 Mehefin. Roedd merch fach Alison Hind, sy’n flwydd a hanner, hefyd yn y car ond mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae beirniadaeth wedi bod yn lleol i ddiogelwch y ffordd, gyda rhai yn dweud mai dyma un o’r ffyrdd peryclaf ym Mhrydain.

Cofio

Mewn datganiad, dywedodd y teulu fod John a Margaret Kehoe wedi rhoi hapusrwydd a mwynhad i bawb oedden nhw’n ei ‘nabod.

“Roedden nhw wedi ymroi eu bywydau i’w gilydd ac i’w teulu. Er ein bod yn galaru amdanyn nhw, rydym yn cofio am y cariad wnaethon nhw ei roi i’r teulu.”

Mae Martin Pugh yn cael ei gofio fel person “cymwynasgar, ystyriol a llawn hwyl.”

“Roedd yn dad gofalgar i’w ddau blentyn Matthew a Nicole ac yn bartner ymroddgar i Lynn. Bydd yn cael ei golli’n ofnadwy gan gylch mawr o ffrindiau a theulu.”

Wrth gofio am Alison Hind, dywedodd y teulu: “Roedd hi’n berson hyfryd a charedig, ac yn fam, partner, merch a ffrind ardderchog i bawb oedd yn ei hadnabod. Roedd hi wedi gwirioni hefo’i phlant  Ethan a Holly, yn weithiwr caled iawn a wastad yn rhoi pobol eraill o flaen hi ei hun.”