Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru yn mynd i newid o ddefnyddio’r cyfeiriad parth .gov.uk i ddefnyddio .cymru a .wales.

Mewn anerchiad yn Llundain yng nghynhadledd corff ICANN, sy’n penderfynu pa enwau parth sy’n gymwys i’w defnyddio ar draws y byd, dywedodd Carwyn Jones y bydd .cymru a .wales yn “rhoi presenoldeb gwahanol i Gymru ar y we.”

Perfformiodd Only Men Aloud yn y gynhadledd y bore ma ac maen nhw wedi cyhoeddi mai nhw fydd yr artistiaid cyntaf i fabwysiadu’r cyfeiriad Cymreig. Dywedodd arweinydd y cor, Tim Rhys-Evans, ei fod yn “falch o fod yn bartner sefydlu .wales a .cymru.”

Mae Chwaraeon Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn mynd i newid eu cyfeiriad gwe hefyd. Bydd y cyfeiriadau newydd yn cael eu lansio fesul tipyn ym mis Medi a byddan nhw ar gael yn eang o’r gwanwyn 2015.

Hyrwyddo’r Gymraeg

Dyma oedd hanner canfed cynhadledd ICANN a  dywedodd Carwyn Jones wrth y cynadleddwyr fod “hwn yn gyfle i Gymru osod ei hun ar wahân ar y we a hyrwyddo manteision ein gwlad, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.”

“Trwy sicrhau enwau parth dwyieithog byddwn ni hefyd yn medru hyrwyddo ac annog y defnydd o’r Gymraeg ar-lein.”

Yn ôl y Farwnes Rennie Fritchie – cadeirydd cwmni Nominet sy’n gyfrifol am weinyddu’r enw parth – mae lansio’r enwau Cymreig yn  “ddechrau gofod ar-lein sy’n wirioneddol Gymreig.”

Mae busnesau yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer nod masnach newydd gyda’r ‘Trademark Clearing House’ cyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn sicrhau enw sy’n diweddu gyda .cymru neu .wales.

‘Cyfle gwych i fusnesau’

Dywedodd Eluned Parrott AC, llefarydd busnes Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:

“Mi fydd y parthau .wales a .cymru yn arfau ychwanegol i fusnesau a mudiadau eraill i werthu Cymru i’r byd. Rwy’n annog iddynt ystyried defnyddio parth .wales neu .cymru naill ai yn lle neu yn ogystal â’u cyfeiriad gwe presennol.

“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae i sicrhau cyfradd dderbyn gref, ac rwy’n falch eu bod yn arwain y ffordd drwy ddefnyddio’r parth eu hunain. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru bwyso ar gwmnïau cofrestru enwau parth i osod prisiau rhesymol ar y parthau hyn, er mwyn sicrhau nad yw busnesau bach sydd eisiau defnyddio’r parthau hyn yn cael eu prisio allan o gyfle gwych.”