Mae diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn cynnal un arall mewn cyfres o streiciau y bore yma dros newidiadau yn eu cynllun pensiwn.
Mae’r diffoddwyr eisoes wedi cynnal 13 streic 7 awr o hyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Fel o’r blaen, bydd y streic heddiw yn para o 10 o’r gloch y bore tan bump y prynhawn.
Fydd diffoddwyr yr Alban na Gogledd Iwerddon yn mynd ar streic.
Mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu gadael i ddiffoddwyr tân ymddeol yn 55 oed, a hynny dan amodau eu pensiynau presennol.
Mae diffoddwyr tân wedi bod yn galw am gytundeb o’r fath ers i lywodraeth San Steffan gyhoeddi bod rhaid iddyn nhw ymddeol yn 55 oed, cam a fyddai’n golygu bod rhai yn colli 47% o’u pensiynau.
Dadl y Llywodraeth yw bod diffoddwyr tân yn cael y fargen orau o gymharu â holl weithwyr eraill y sector cyhoeddus, ac na fydd y newidiadau’n effeithio dim ar dri chwarter aelodau’r undeb.
‘Cynnig synhwyrol’
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Frigâd Dan, Matt Wrack, fod y cynnig gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon yn profi fod eu galwad yn “synhwyrol ac yn fforddiadwy”.
“Nid yw’r cynnig yn berffaith ond mae’n dangos bod posib osgoi gwrthdaro pan mae dwy ochr yn fodlon siarad.”
“Mae’n amser i weddill Prydain gymryd sylw o’r gwelliant sydd wedi ei wneud yng Ngogledd Iwerddon a chytuno ar gynllun pensiwn mwy teg na’r hyn sy’n cael ei gynnig,” meddai.