Catrawd y Royal Welsh
Fe fydd rhai o wleidyddion Cymru yn Wrecsam heddiw mewn digwyddiad i nodi diwrnod blynyddol y lluoedd arfog.

Mae dathliadau’n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, gyda milwyr a’u teuluoedd yn ogystal â chadetiaid a’r rheiny oedd yn arfer bod yn rhan o’r lluoedd arfog yn cymryd rhan.

Dinas Stirling yn yr Alban sydd wedi cael ei dewis i gynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, digwyddiad sydd wedi cael ei gynnal o dan yr enw presennol ers 2009.

Cyn hynny, roedd y digwyddiad a ddechreuodd yn 2006 yn cael ei alw’n Ddiwrnod y Cyn-filwyr, ond cafodd ei ehangu a’i ailenwi fel cyfle blynyddol i ddangos cefnogaeth gyffredinol i’r Lluoedd Arfog.

Heddiw mae Wrecsam yn cynnal dathliad Gogledd Cymru o’r diwrnod, gyda dathliad cenedlaethol Cymru’n digwydd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf, 28 Mehefin.

Bydd seremoni hefyd yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ddydd Llun, ble bydd cyn-filwyr, cadlanciau ac aelodau o’r Lluoedd Arfog yn coffáu’r dynion a’r menywod sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu.

‘Traddodiad milwrol Cymru’

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, fod yn bresennol yn nathliadau Wrecsam.

Fe fydd Lesley Griffiths hefyd yn mynychu’r seremoni yng Nghaerdydd ddydd Llun, gyda’r Aelod Seneddol a gweinidog Swyddfa Cymru Stephen Crabb yn bresennol yn y dathliadau olaf yng Nghaerdydd fydd yn cynnwys sioe awyr.

“Wrth i Gymru baratoi i gynnal cynhadledd NATO ym mis Medi, mae hwn yn gyfle arall i ddangos traddodiad milwrol canmoladwy Cymru a sgiliau ac arbenigedd ein sector amddiffyn,” meddai David Jones.

“Mae gennym ddyled o ddiolch i’r rheiny sydd yn gweithio’n ddiflino, yn aml mewn amgylchiadau anodd, i amddiffyn ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw.”

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn awyddus i ddangos ei chefnogaeth i’r digwyddiad yng ngogledd a de Cymru.

“Fel y Gweinidog sydd yn bwynt cyswllt ar gyfer y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yng Nghymru, rwy’n falch iawn o allu dangos fy nghefnogaeth yn nau ben y wlad,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bawb ddangos eu gwerthfawrogiad, eu diolch a’u parch at bersonél sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr fel ei gilydd.”