Gwrthryfelwyr Isis yn anelu at filwyr Irac (Llun PA)
Myfyriwr ugain oed o Gaerdydd yw un o’r tri dyn ar fideo sydd i’w gweld ar y we yn annog Mwslemiaid o Wledydd Prydain i ymuno â nhw i ymladd yn Irac.

Fe wnaeth Nasser Muthana, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Abu Muthanna al-Yemeni, adael y brifddinas efo’i frawd 17 oed Aseel Muthana ym mis Tachwedd ac roedd y teulu yn credu eu bod wedi mynd i Dwrci.

Mae Muthana yn ymddangos efo dau ddyn arall mewn fideo 13 munud o hyd yn dwyn y teitl “There is No Life Without Jihad” ble mae nhw’n dweud eu bod yn paratoi i deithio i Irac er mwyn ymladd yno.

Mae nhw’n annog Mwslemiaid eraill o Wledydd Prydain i ymuno â nhw ac “ateb yr alwad ac ymladd dros Allah.”

Yn y fideo, mae Muthana yn honni bod yna Fwslemiaid o Cambodia, Awstralia a Gwledydd Prydain yn eu grŵp nhw.

“Rydyn ni’n wladwriaeth sydd yn gweithredu Sharia yn Irac a’r Sham,” meddai.

“Ac edrychwch ar y milwyr yma, tydyn ni’n ddim yn deall yr un ffîn,” ychwanegodd gan ddweud eu bod wedi ymladd eisoes yn Sham a’u bod ar eu ffordd i ymladd i Irac.

Ymateb y teulu

Dywed ei dad, Ahmed Muthana sydd hefyd yn byw yng Nghaerdydd, ei fod wedi synnu o weld y fideo ac nad ydi’r hyn mae ei fab yn ei ddweud yn adlewyrchu ei farn go iawn.

Dywedodd wrth bapur y Daily Telegraph bod ei fab yn fachgen tawel oedd wedi cael ei dderbyn i astudio meddygaeth mewn pedair Prifysgol ac wedi gwrthod pob cynnig.

Redd o dan yr argraff ei fod yn Nhwrci meddai ac roedd bellach yn poeni’n arw y byddai yn cael ei ladd neu ei anafu.

“A bod yn onest tydw’i ddim cytuno efo fo ond tydw’i ddim yn gwybod beth mae o wedi cael ei ddysgu yn ei feddwl,” meddai Ahmed Muthana.

“Wrth gwrs mae nhw wedi cael eu dylanwadu yn y DU ond a bod yn onest tydw’i ddim yn gwybod. Yn y mosg, dyw pobl y mosg yn dweud dim byd wrtha’i. Pwy sy’n eu hannog nhw, pobl ar y stryd? Na, mae’n rhaid mae’r mosg sy’n gwneud ond pa fosg wn i ddim. Mae nhw hefyd yn treulio llawer iawn o’u hamser ar y cyfrifiadur.”

Dywedodd Ahmed Muthana wrth Newyddion ITV ei fod wedi wylo  pan welodd ei fab ar y fideo.

Ymateb yr awdurdodau

Mae’r awdurdodau dioglewch y Mhrydain bellach yn blaenoriaethu’r gwaith o ddilyn pobl o Brydain sydd wedi mynd i ymladd i Syria.

Mae David Cameron wedi datgan bod milwyr Isis hefyd yn cynullio i gynnal ymosodiadau yng Nglwedydd Prydain