Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Ceredigion
Fe fydd Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dod at ei gilydd yr wythnos nesaf i bwyso am gael mwy o ferched yng nghoridorau grym y wlad.
Yn ôl Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler, sydd wedi arwain ymgyrch ar y mater, y bwriad yw ceisio sicrhau fod rôl merched mewn gwleidyddiaeth yn parhau’n “flaenoriaeth ar yr agenda wleidyddol”.
Mae’r tri sefydliad wedi cydnabod eisoes fod angen gwneud rhagor er mwyn annog mwy o fenywod i weithio ym maes gwleidyddiaeth.
Bydd datganiad ar y cyd yn cael ei lofnodi yn y Cynulliad ddydd Mercher, gyda Rosemary Butler, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths AC, a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol ar Gydraddoldeb a Heneiddio’n Egnïol Ellen ap Gwynn, sydd hefyd yn Arweinydd Cyngor Ceredigion, yn bresennol.
Dim ond 27% o gynghorwyr lleol sydd yn ferched, ac fe ddywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod angen rhagor o gefnogaeth ac anogaeth arnynt i fynd i fyd gwleidyddiaeth.
“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar gael i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi cyhoeddus a’u bod yn cael cefnogaeth wedi iddynt gael eu hethol neu eu penodi,” meddai Ellen ap Gwynn.
Eisiau mwy yn y Cynulliad
Dechreuodd Rosemary Butler ymgyrch ‘Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus’ nôl yn 2011, gan gynnal seminarau ledled Cymru, ac mae’n dweud fod rhagor eto i’w wneud.
“Ar ôl i mi gael fy ethol yn Llywydd, fe wnes i ymrwymiad i arwain ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau a gweithredu i fynd i’r afael â phrinder menywod dylanwadol, a menywod sy’n gwneud penderfyniadau, yng Nghymru,” esboniodd Rosemary Butler.
Fel rhan o hynny dywedodd ei bod wedi ysgrifennu at arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad i ystyried y camau i’w cymryd er mwyn sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
“Gwn fod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi gweithredu rhaglenni strategol i fynd i’r afael â’r mater hwn,” ychwanegodd Rosemary Butler.
“Ond drwy lofnodi’r datganiad hwn ar y cyd heddiw, rydym yn sicrhau bod y mater yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar yr agenda gwleidyddol.”
Yn ddiweddar fe gythruddwyd rhai gwleidyddion lleol yng Nghwm Cynon wedi i’r Blaid Lafur gyhoeddi y byddai’n cynnal rhestr merched yn unig i ddewis ei hymgeisydd Seneddol ar gyfer 2015 yn yr etholaeth.