Mae S4C a chyrff eraill yn chwilio am “bedwar awdur awyddus” a fydd efallai yn sgrifennu’r cyfresi teledu mawr nesa’, drama dda neu hyd yn oed ffilm.

Bydd cynllun ‘Y Labordy’ yn rhoi cyfle i bedwar o bobol gydweithio gyda sgriptwyr a chynhyrchwyr sydd yn uchel eu parch yn y diwydiant.

Bydd y fenter yn cael ei gyhoeddi heddiw yn rhan o weithgareddau Llenyddiaeth Cymru ym mhenwythnos Gŵyl Dinefwr yn Llandeilo.

Mae’r fenter wedi ei noddi ar y cyd rhwng S4C, Creative Skillset Cymru yn rhan o Raglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol, Cyngor y Celfyddydau a Ffilm Cymru.

‘Llawn dychymyg’

“R’yn ni’n yn ffodus iawn yng Nghymru bod gyda ni gyfoeth o awduron sy’n llawn dychymyg ac uchelgais,” meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C.

“Ein gobaith ni gyda’r cynllun yma yw gweithio gyda rhai o’r unigolion hynny i gyrraedd lefel o ragoriaeth fydd yn dyrchafu eu gwaith ymhellach fyth.

“Mae hon yn fenter uchelgeisiol, sydd yn ein galluogi i gynnig cyfleoedd sydd wedi eu teilwra ar gyfer awduron Cymraeg i gyd-weithio â mentoriaid a chael y profiad o gysgodi talent sydd wedi creu cynnyrch heriol a gwreiddiol ar gyfer teledu, ffilm a theatr yn rhyngwladol.”