Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae merch 18 mis oed a gafodd ei hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar yr A44 ger Aberystwyth, mewn cyflwr sefydlog ac yn gwella, meddai Heddlu Dyfed Powys.

Bu farw mam Holly Hind yn y gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Llangurig a Phonterwyd ddydd Mawrth, ynghyd a thri aelod arall o’r un teulu.

Roedd y ferch fach yn teithio mewn car fu mewn gwrthdrawiad a thancer a fan.

Mae hi wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Roedd John Kehoe, 72, a’i wraig Margaret, 65, eu mab yng nghyfraith Martin Pugh, 47, a’i nith ef Alison Hind, 28, yn dod o dref Llanidloes.

Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i achos y ddamwain yn parhau. Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a welodd y cerbydau tuag adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.