Fe fydd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn arwain ymchwil newydd gwerth £16 miliwn i’r cyflwr dementia.

Fe fydd y Platfform Ymchwil Dementia Prydeinig (UKDP) yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o adnabod, trin ac atal y cyflwr gan ganolbwyntio ar y corff i gyd, yn hytrach na dim ond yr ymennydd.

Wedi ei arwain gan Dr John Gallacher, bydd yr ymchwil yn casglu gwybodaeth gan ddwy filiwn o wirfoddolwyr dros 50 oed a’r nod yn y pen draw fydd arwain at brofion a thriniaeth newydd.

Mae dementia yn gyflwr sy’n achosi i’r ymennydd ddirywio ac yn golygu bod pobol yn anghofio pethau o ddydd i ddydd. Mae’n effeithio tua 800,000 o bobol ym Mhrydain.

Ffactorau

Mae’r brifysgol eisoes wedi arwain ymchwil i afiechyd Alzheimer, sef y ffurf fwyaf cyffredin o ddementia.

Dywedodd arweinydd y gwaith, Dr John Gallacher: “Drwy edrych ar gysylltiadau rhwng datblygiad yr afiechyd a ffactorau eraill fel diet a salwch, rydym yn gobeithio darganfod targedau newydd ar gyfer cyffuriau newydd neu ychwanegu at gyffuriau sydd eisoes yn bodoli.”