Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
Fe fydd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn cyhoeddi heddiw y bydd £650,000 yn cael ei roi er mwyn ei gwneud yn haws i bobol â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru gael mynediad at therapïau seicolegol.

Bydd y cyllid hwn yn helpu i ddarparu therapïau seicolegol i’r tua 30,000 o bobol sy’n cael eu hasesu bob blwyddyn, a bydd hefyd yn cynnwys therapïau seicolegol i gyn-filwyr sy’n dioddef o straen wedi trawma.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd yn datblygu gwaith sydd eisoes ar droed i hyfforddi staff y Gwasanaeth Iechyd i wella’u sgiliau.

Mae Mark Drakeford wedi disgrifio’r hwb ariannol fel rhywbeth sydd am alluogi Cymru i barhau i “dorri tir newydd” ym maes iechyd meddwl.

Opsiynau

“Yng Nghymru, rydyn ni’n anelu at gael gweithlu sy’n meddwl am faterion seicolegol ac sy’n deall ac yn cefnogi pobl i reoli eu hiechyd yn well,” meddai’r Athro Mark Drakeford.

“Mae hynny’n golygu bod angen ffordd o weithio sy’n ymdrin ag agweddau corfforol, cymdeithasol a seicolegol ar iechyd unigolyn.

“Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ein strategaeth iechyd meddwl a lles sy’n torri tir newydd, yn rhoi sylw i werth cynnig y cyfle i gael amrywiaeth o ymyriadau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

“Rhaid inni sicrhau bod gan gleifion ddewis gwirioneddol ynglŷn â’r holl opsiynau sydd ar gael o ran triniaethau ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

“Bydd sicrhau bod gan bobl y sgiliau a’r gefnogaeth i reoli eu cyflwr yn helpu i atal ail bwl o salwch, a bydd hefyd yn lleihau’r angen am ymyriadau costus yn y dyfodol.