Mae disgwyl i fanylion am y parthau .cymru a .wales ar gyfer y we gael eu cyhoeddi heddiw.
Bydd rheolau a phrosesau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn tri mis o ymgynghoriad ac mae cwmni ymgynghori Positif yn dweud eu bod nhw’n hyderus y byddan nhw’n gallu “creu fframwaith polisi cryf a fydd yn caniatáu i .cymru a .wales ddatblygu ac ehangu”.
Rhan o’r broses ymgynghori oedd sicrhau bod y parthau’n addas ar gyfer busnesau Cymru ac i’r defnydd o’r Gymraeg ar-lein.
Daeth cadarnhad heddiw y bydd y parthau ar gael i fusnesau cyn y byddan nhw ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.
Fel rhan o’r parthau newydd, fe fydd modd i fusnesau ac unigolion ddefnyddio acenion y Gymraeg, sy’n “ddull unigryw sydd wedi cael ei ddatblygu yn arbennig ar gyfer .cymru a .wales”.
Mae busnesau wedi cael gwahoddiad i gofrestru ar gyfer nod masnach newydd gyda’r ‘Trademark Clearing House’ cyn diwedd mis Gorffennaf.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Hoffem ddiolch i bawb wnaeth ymateb a gwnaeth ein helpu i ddatblygu cynigion.
“Rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r ymatebion gwnaethom dderbyn a datganiad polisi sy’n nodi ein casgliadau yn dilyn yr ymgynghoriad yn Rhagfyr 2012.”
Crynodeb o’r polisi:
– Gofyn i ailwerthwyr parthau sy’n gwerthu enwau parth i’r cyhoedd sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg
– Bydd dewis gan fusnesau i gofrestru gyda .cymru, .wales neu’r ddau
– Bydd canolfan alw ddwyieithog ar gael i helpu defnyddwyr
– Sefydlu Cynllun Iaith Gymraeg gwirfoddol
Mae modd gweld y polisi llawn yma.
‘Cyfle cyffrous’
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet, Ieuan Evans: “Mae’r parthau .cymru a .wales newydd yn gyfle cyffrous i Gymru cyrraedd ei lawn botensial ar-lein gan greu platfform a fydd yn caniatáu i Frand Cymru cael ei gydnabod yn fyd-eang.
“Rydym yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod yr enwau parth hyn yn gweithio i bawb yng Nghymru a’u bod yn galluogi pobl i greu a defnyddio cynnwys yn y Gymraeg.”
Dywedodd Jo Golley, sy’n arwain Tîm Cymru Nominet: “Cyhoeddiad ein dogfen polisi yw’r cam nesaf yn ein bwriad i roi platfform ar-lein newydd i Gymru er mwyn adeiladu brand Cymru.
Wedi i ni weithio am dros ddwy flynedd gyda Llywodraeth Cymru a busnesau a sefydliadau allweddol Cymreig, rydym yn hyderus ein bod bellach yn y sefyllfa gorau i gyflwyno parthau sydd yn fwy perthnasol i Gymru.
“Heddiw, rydym wedi cadarnhau ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ymhellach. Rydym wedi cyflwyno mesurau technegol eang er mwyn caniatáu defnydd o acenion er mwyn sicrhau bod modd i bobl defnyddio amrywiaeth a chynildeb yr iaith Gymraeg ar-lein. Fe fydd y camau allweddol hyn yn caniatáu cynnydd anferthol yn enwau parth Cymraeg ar y rhyngrwyd.”