Parhau mae ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys y bore ma ar ôl i bedwar o bobl gael eu lladd mewn damwain ffordd ar yr A44 yng nghanolbarth Cymru bnawn ddoe.

Daeth cadarnhad neithiwr bod dau ddyn a dwy ddynes wedi marw yn y ddamwain ar yr A44 rhwng Llangurig a Phonterwyd.

Roedd y rhai fu farw yn aelodau o’r un teulu ac yn byw yn Llanidloes.

Cafodd merch fach 18 mis oed, a oedd yn dioddef o anafiadau i’w phen, ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tancer, car a fan tua 2.55yp ddydd Mawrth.

Bu’r ffordd ynghau am rai oriau ddoe ond fe agorodd unwaith eto am 3yb bore ma, meddai’r heddlu.

Roedd Eluned Thomas, o fferm Eisteddfa Gurig tua dwy filltir i ffwrdd o safle’r ddamwain, wedi ffonio’r gwasanaethau brys ar ôl i ddynes ofyn am gymorth gan nad oedd signal ar gyfer ffonau symudol ar y safle.

Dywedodd Eluned Thomas bod y ffordd yn un brysur iawn a bod “damweiniau’n digwydd o hyd” yn yr ardal.

‘Tristwch’

Mae AC Plaid Cymru yng Ngheredigion, Elin Jones, hefyd wedi mynegi pryderon am y ffordd yn y gorffennol. Dywedodd ar y Post Cyntaf y bore ma:  “Mae ’na dristwch dwys iawn y bore ma oherwydd mae’n ymddangos bod pedwar aelod o’r un teulu wedi marw yn y ddamwain, a merch fach yn ymladd am ei bywyd yn yr ysbyty.

“Mae’r A44 yn brif ffordd, ac yn gefnffordd, sy’n droellog, yn fynyddig, a does dim llawer o lefydd i basio. Mae ’na gyfuniad o draffig – loriau sy’n cario nwyddau a nifer o loriau yn defnyddio’r ffordd fel cyswllt i Abergwaun, a thraffig lleol, a hefyd, yr adeg yma o’r flwyddyn, traffig twristiaeth.

“Mae’n un o’r ffyrdd mwyaf peryglus, ac nid yw wedi gweld buddsoddi sylweddol dros y 15-20 mlynedd diwethaf. Does dim llawer o newidiadau wedi digwydd ar y ffordd yna er mwyn ymateb i’r cynnydd yn nifer y traffig sy’n defnyddio’r ffordd.

“Bydd angen aros i weld a oes gwersi i’w dysgu o hyn.”