Mae plant rhwng 7 ac 14 oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gwneud yn well mewn Saesneg na rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru.
Dyma un o brif ganfyddiadau adroddiad gan y corff adolygu Estyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Dywed yr adroddiad hefyd bod cyfran y disgyblion sy’n cyflawni’r lefel ddisgwyliedig neu’n uwch mewn asesiadau Saesneg wedi cynyddu er 2008.
Er hyn, mae safonau ysgrifennu mewn lleiafrif o ysgolion uwchradd yn parhau i fod yn destun pryder gyda gormod o waith marcio ansawdd gwael o hyd ar waith disgyblion.
Ond yn ôl Estyn, mae mwyafrif y disgyblion mewn gwersi Saesneg cyfnod allweddol 2 a 3 yn siarad yn glir yn ystod trafodaethau ac yn ymateb yn dda i amrywiaeth eang o destunau.
Ysgolion Cymraeg a Saesneg yng Nghymru
“At ei gilydd, mae ansawdd addysgu Saesneg yn dda,” meddai llefarydd ar ran y corff adolygu.
A dywed yr adroddiad: “Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae perfformiad disgyblion mewn Saesneg yng nghyfnod allweddol 2 wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf ac mae tua dau bwynt canran yn uwch na pherfformiad disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”
“Yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae perfformiad disgyblion mewn Saesneg hefyd wedi bod yn gyson uwch nag ydyw mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o ryw bum pwynt canran.”
Fe wnaeth yr arolygwyr ymweld â 21 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y wlad.
Cymysg
Er gwaetha’r duedd o welliant, dywedodd Prif Arolygydd Estyn Ann Keane bod y cynnydd yn rhy araf o hyd i ddisgyblion 7-14 oed yng Nghymru ddal i fyny ag gwledydd eraill yn y DU.
“Mae darllen ac ysgrifennu yn allweddol i lwyddiant ym mhob maes o’r cwricwlwm,” meddai.
“Mae gwallau mewn sillafu, atalnodi a gramadeg yn lleihau ansawdd ysgrifennu ac yn effeithio ar safonau.
“Fodd bynnag, mae rhai ysgolion wedi bod yn llwyddiannus o ran gwella safonau mewn Saesneg, ac rwy’n annog ysgolion eraill i lawrlwytho’r adroddiad a dilyn yr arweiniad a amlinellir yn yr astudiaethau achos arfer orau.”
Arferion gorau
Dyma’r tair ysgol oedd Estyn yn credu oedd a’r arferion dysgu gorau yn ystod eu hymweliad:
- Ysgol Uwchradd y Fflint, Sir y Fflint
- Ysgol y Faenol, Gwynedd
- Ysgol Gynradd Glan Wysg, Casnewydd