Traffordd yr M4
Bydd llefarydd economi Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn arwain dadl yn y Senedd yr wythnos hon am gynlluniau i liniaru tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd.

Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio parhau â’r cynllun i ddatblygu M4 newydd i’r de o Gasnewydd – yr hyn maen nhw’n ei alw’n “Llwybr Du”.

Yn hytrach, maen nhw’n awyddus i ddatblygu’r A48 i safon uchel, yr hyn maen nhw’n ei alw’n “Llwybr Glas”.

Byddai cynllun y Llywodraeth yn costio’n agos i £1 biliwn ond mae Plaid Cymru’n dadlau y byddai’r gost o ddatblygu’r A48 yn nes at £380 miliwn, ac mae’n gynllun sydd eisoes wedi ennyn cefnogaeth gan Ffederasiwn y Busnesau Bach a Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Dywed Plaid Cymru fod y Llwybr Glas yn “ateb mwy arloesol” gan y byddai mwy o arian dros ben i’w wario ar drafnidiaeth mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys yr A55, prif ffyrdd y Gorllewin a Metro De-Ddwyrain Cymru.

Eisoes, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, sy’n gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd yn y Cynulliad, wedi anfon llythyr at y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart yn datgan ei bryder nad oes digon o sylw wedi’i roi i opsiynau amgen.

Mae e hefyd yn pryderu am gost a goblygiadau amgylcheddol y cynllun.

‘Llwybr Glas yn hwb arwyddocaol’

Mewn datganiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae Plaid Cymru eisiau cadw economi de Cymru yn symud trwy fuddsoddi yng nghynigion y Llwybr Glas o gwmpas Casnewydd.

“Byddai hyn yn hwb arwyddocaol a chyffrous i’r economi o gwmpas y ddinas, a byddai’n rhoi llwybr arall i draffig pan fydd gormod o dagfeydd ar yr M4.

“Mae’r FSB a’r IoD wedi cefnogi’r cynnig hwn, ac y mae’n ffordd gyflymach a mwy pendant o lawer o drin tagfeydd na gwneud M4 newydd, na fyddai’n agor tan 2031.

“Mae’n gynnig o ansawdd uchel fyddai’n rhoi hwb enfawr o ran seilwaith i Gasnewydd.

“Mantais arall y Llwybr Glas yw ei fod yn gwarchod y safleoedd amgylcheddol sensitif ar Wastadeddau Gwent. Mae’n anodd rhoi pris ar arbed Gwastadeddau Gwent, ond mae’r Llwybr Glas hefyd yn arbed tua £620m y carai Plaid Cymru weld yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau mewn mannau eraill yng Nghymru.

“Rydym yn rhoi cyfle i’r llywodraeth Lafur gefnu ar eu cynlluniau i fenthyca a gwario £1bn ar 14km o draffordd; ffordd hollol anghymesur o drin tagfeydd.

“Byddai cynllun gwahanol Plaid Cymru yn cael ei gwblhau yn gynt a byddai’n gadael mwy o arian i anghenion seilwaith y cymoedd, gorllewin a gogledd Cymru.”