Mae Heddlu Gwent wedi arestio dynes arall mewn cysylltiad hefo ymosodiad ar dri swyddog yr heddlu ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ddoe.

Cafodd y swyddogion eu galw i Sgwâr y Farchnad am 1 o’r gloch y bore, ar ôl adroddiadau bod lladrad yn digwydd yno. Wrth i’r swyddogion arestio’r rhai dan amheuaeth o’r drosedd, fe wnaeth ‘na griw o bobol nad oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad ymosod arnyn nhw.

Bu’n rhaid i’r tri swyddog dderbyn triniaeth yn Ysbyty Nevill Hall.

Cafodd dau ddyn, 28 a 23 oed, a merch 23 oed, sy’n byw yn yr ardal leol, eu cymryd i’r ddalfa ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn yn dreisgar ac mae dynes arall 26 oed bellach wedi ei harestio hefyd.

Mae’r dyn gafodd ei arestio am geisio lladrata wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.