Aamir Siddiqi
Mae dau ddyn a lofruddiodd fyfyriwr ar gam y tu allan i gartref ei rieni yng Nghaerdydd wedi colli eu hapêl.
Roedd tri barnwr yn y Llys Apêl wedi gwrthod apêl Jason Richards, 39, yn erbyn ei ddedfryd o garchar am oes, gydag isafswm o 40 mlynedd dan glo.
Methiant hefyd fu ymdrech Ben Hope, 40, i apelio yn erbyn yr un ddedfryd o garchar am oes.
Cafwyd y ddau yn euog o lofruddio Aamir Siddiqi, 17, o flaen ei rieni, Parveen ac Iqbal, y tu allan i’w cartref yn y Rhath, Caerdydd ym mis Ebrill 2010.
Cafodd ei rieni hefyd eu hanafu yn yr ymosodiad wrth iddyn nhw geisio atal Hope a Richards rhag trywanu eu mab.
Roedd y ddau wedi cael eu talu i ladd dyn arall ond wedi mynd i’r cyfeiriad anghywir gan lofruddio Aamir Siddiqi ar gam.
Dywedodd y barnwr, yr Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Thomas bod dedfrydau’r ddau yn “adlewyrchu difrifoldeb y troseddau.”