Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi croesawu erthygl olygyddol y Financial Times sy’n dadlau y dylai Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd gael mwy o bwerau ariannol petai’r Alban yn pleidleisio Na.
Mae adroddiad gan yr Arglwydd Strathclyde o’r Ceidwadwyr yn addo pwerau ariannol sylweddol i’r Alban petai’r etholwyr yn pleidleisio o blaid aros yn y Deyrnas Unedig. Dywed y Financial Times heddiw:
“Byddai’n rhaid i symudiad tuag at ddatganoli ariannol pellgyrhaeddol yn yr Alban gael ei ailadrodd yng ngweddill yr undeb. Byddai angen setliad cyfansoddiadol newydd sbon er mwyn creu Prydain sy’n fwy ffederal,” medd y papur.
“Byddai angen i Gymru a Gogledd Iwerddon gael pwerau tebyg i’r Alban i godi, ac amrywio, cyfraddau treth.”
‘Dim cynnig cyfatebol i Gymru’
Dywed Leanne Wood ei bod hi’n croesawu barn yr FT.
“Mae’n rhyfedd fod y tair plaid unoliaethol wedi cyhoeddi y byddai pleidlais Na gan yr Alban yn arwain at fwy o bwerau i’r Alban, ond heb wneud cynnig cyfatebol i Gymru,” meddai.
“Bydd hyn yn ein gadael mewn sefyllfa ble bydd gan Lywodraeth yr Alban y pwerau i ddeddfu i gryfhau ei heconomi, i liniaru effeithiau niweidiol polisïau Torïaidd, neu i leihau trethi yn yr Alban, tra bod Cymru yn parhau i fod ar drugaredd llywodraeth San Steffan.”
Mewn araith ddiweddar ym Mhrifysgol yr UCL yn Llundain dywedodd Leanne Wood fod angen cydbwyso’r berthynas rhwng gwledydd Prydain.
Ac mae’r FT yn dweud y dylid creu setliad cyfansoddiadol newydd i Brydain “yn ddi-oed” petai’r Alban yn pleidleisio Na yn y refferendwm ar Fedi 18, gan ddadlau nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn.