Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £2.3 miliwn i hybu gwyddoniaeth mewn ysgolion blwyddyn nesaf.
Yn ei gynhadledd newyddion misol, dywedodd y Prif Weinidog mai nod y cyllid yw gwella ansawdd addysgu gwyddoniaeth yn y dosbarth cyn asesiadau PISA’r flwyddyn nesaf.
“Bydd y pecyn cyllid sylweddol dw i wedi’i gyhoeddi heddiw yn help aruthrol i hybu gwyddoniaeth yn ein hysgolion wrth inni baratoi ar gyfer profion PISA yn 2015, ond yn bwysicach na hynny bydd yn help i wella perfformiad yn y gwyddorau yn gyffredinol,” meddai’r Prif Weinidog.
Mae canlyniadau diweddaraf PISA, a gyhoeddwyd ar ddiwedd 2013, yn datgelu gostyngiad mewn safonau mathemateg a gwyddoniaeth, gyda Chymru’r isaf o holl wledydd y DU.
Mae’r cyllid newydd o £600,000 y flwyddyn yn 2014-15 a 2015-16 wedi’i ryddhau i helpu i ddatblygu athrawon a chreu adnoddau dysgu a fydd yn gwella sgiliau llythrennedd gwyddoniaeth a gwybodaeth gyffredinol.
Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys cyllid newydd ar gyfer swydd cynghorydd gwyddoniaeth yn y pedwar consortiwm addysg dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd Techniquest, lle cafodd y cyhoeddiad ei wneud, yn derbyn cyllid o £1.375 miliwn tra bydd Techniquest Glyndŵr yn derbyn £380,000 er mwyn gwella darpariaeth wyddoniaeth a mathemateg mewn ysgolion.
‘Angen ysbrydoli’
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae dealltwriaeth dda o’r gwyddorau yn bwysig iawn i addysg gyflawn. Mae angen inni ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth.
“Mae Cymru eisoes ar flaen y gad o ran datblygu a denu swyddi sgiliau uchel a chwmnïau sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang. Os ydyn ni i adeiladu ar ein llwyddiant yn y maes hwn a pharhau i greu gwlad sy’n lleoliad busnes cydnabyddedig, yna mae addysg wyddonol dda yn hollbwysig.”
‘Mae PISA yn bwysig’
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: “Drwy ymrwymo £2.3 miliwn i addysg wyddoniaeth, rydyn ni’n dweud mor bwysig yw’r pwnc. Mae sgiliau llythrennedd cryf yr un mor hanfodol i wyddoniaeth ag ydyn nhw i fathemateg a Saesneg.
“Yr wythnos diwethaf, fe ges i’r pleser o gwrdd ag Andreas Schleicher mewn cynhadledd addysg fawr yng Nghaerdydd. Roedd neges y gynhadledd yn glir – mae PISA yn bwysig. Gan mai gwyddoniaeth yw’r prif faes ym mhrofion PISA yn 2015, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r pwnc os ydyn ni i lwyddo a gwella yn y cylch nesaf o brofion rhyngwladol.”
‘Hwb gwych’
Ychwanegodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: “Mae’r pecyn cyllid newydd hwn yn hwb gwych i wyddoniaeth yng Nghymru, ac fe gaiff groeso brwd gan lawer ohonon ni yn y gymuned wyddonol.
“Yn y pen draw, fe hoffwn i Gymru gael ei chydnabod yn wlad fach a gwyddoniaeth wych; lle y mae pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd yn cael cyfleoedd ffantastig i ddysgu am wyddoniaeth a chael eu cyffroi ganddo.”