Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar dri swyddog yr heddlu ystod digwyddiad ym Mrynmawr ym Mlaenau Gwent yn oriau man y bore.
Mae dau ddyn, 28 a 23 oed, a merch 23 oed, sy’n byw yn yr ardal leol, yn y ddalfa ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn yn dreisgar.
Mae dyn arall yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ladrata.
Cafodd y tri swyddog, dwy ddynes a dyn, eu hanfon i’r digwyddiad yn Sgwâr y Farchnad tua 1yb bore dydd Llun, lle digwyddodd yr ymosodiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Davies: “Roedd ein swyddogion yn gwneud eu dyletswyddau ac mae’r ffaith fod rhywun wedi ymosod arnyn nhw yn gwbl annerbyniol.”
Mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad i gysylltu â nhw ar 101.