Fe allai staff Prifysgol Aberystwyth fynd ar streic ar ddiwrnod cynta’r tymor nesa’, er mwyn protestio yn erbyn newidiadau i’w pensiynau.
Mae aelodau’r undeb UCU wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol, gan eu bod yn poeni y gallai trefn newydd olygu fod gweithwyr ar gyflogau isel yn derbyn llai o bensiwn.
Mae’r undeb wedi cadarnhau y byddai angen i’r aelodau bleidleisio eto mewn balot er mwyn cytuno i fynd ar streic ar Fedi 22.
Mae aelodau’r undebau UCU, Unite ac Unison wedi cefnogi’r bwriad i fynd ar streic.