Cafodd cynlluniau i godi tâl ar fodurwyr am barcio ar y Sul yng Nghaerfyrddin, a than 9.00 yr hwyr ym mhrif faes parcio’r dref, eu condemnio hallt mewn cyfarfod cyhoeddus orlawn neithiwr.

Bu trigolion, masnachwyr a chynrychiolwyr  nifer o sefydliadau, gan gynnwys eglwysi lleol yn siarad yn y cyfarfod, a drefnwyd gan y chwe aelod o Blaid Cymru sy’n cynrychioli’r dref ar y Cyngor Sir.

Dywedodd masnachwyr y byddai’r taliadau newydd yn niweidio busnesau bychain sydd eisoes yn ymdrechu i oroesi’r dirwasgiad. Galwodd eraill y cynllun i godi tâl am barcio ar y Sul yn ‘dreth ar grefydd’.

Fe wnaeth y Cyng Alun Lenny, a gadeiriodd y cyfarfod, annog pobl i leisio eu gwrthwynebiad drwy ysgrifennu at y Cyngor Sir erbyn dydd Llun, pan fydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben yn ffurfiol.