Olwyn Ddŵr Aberdulais wedi ei adfer

Bydd yn cynhyrchu trydan i wresogi canolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol


Mae olwyn ddŵr Aberdulais – y fwyaf yn Ewrop sy’n cynhyrchu trydan – wedi cychwyn gweithio unwaith eto, ar ôl cael ei hadfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Nid oedd yr olwyn ddŵr ger Rhaeadr Aberdulais yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi bod yn gweithio ers sawl mis.

Ond bydd rŵan yn cynhyrchu’r trydan sydd ei angen i wresogi safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n cynnwys canolfan ymwelwyr, sinema a chanolfan addysg.

Mae cynlluniau ar gyfer system hydro arall yn Aberdulais fydd yn pweru tua 120 o dai yn yr ardal. Bydd unrhyw drydan sy’n weddill yn cael ei werthu trwy’r Grid Cenedlaethol i gyflenwyr ynni trydanol.

Dywedodd rheolwr y prosiect, Leigh Freeman fod adfer yr olwyn ddŵr wedi bod yn broses “hir a chymhleth”.

“Roeddem ni’n gweithio hefo system fodern o fewn isadeiledd hanesyddol.

“Ond mae hi’n wych cael gweld yr olwyn yn gweithio unwaith eto.”